Dathlu cymdogion da

Gall cael cymydog da wneud gwahaniaeth enfawr i gymuned ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i wobrwyo.

Bwriad y cynllun yw diolch i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?

Fel tenant i ni, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, cewch chithau hefyd daleb siopa gwerth £10.

Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu eraill yna rydym eisiau clywed gennych! Dyddiad cau: 25/10/2019

Adolygiad Blynyddol yn cael ei ddatgelu yn y Cyfarfod Blynyddol

Cynhaliodd Tai Gogledd Cymru ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar ddydd Iau 12fed Medi 2019. Daeth staff, aelodau’r Bwrdd a chyfranddalwyr at ei gilydd yn y digwyddiad blynyddol.

Cafodd yr Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 ei ddatgelu yn y digwyddiad; mae’r Adolygiad yn gyfle perffaith i edrych dol ar y flwyddyn a’i lwyddiannau.

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys derbyn ‘Safonol’ eto yn ein dyfarniad rheoleiddiol gan Lywodraeth Cymru, gorffen ein datblygiad Nant Eirias yn Bae Colwyn, dechrau Canada Gardens yng Nghaergybi a’r nifer o gyfleoedd i denantiaid i gael dweud eu dweud, gan gynnwys y prosiect ‘Agor drysau i’r awyr agored’.

Cymerodd Tom Murtha, Cadeirydd y Grŵp Bwrdd, y cyfle i ddiolch i gyfranddalwyr, staff ac aelodau Bwrdd yn y Cyfarfod am eu cyfraniad i lwyddiant y flwyddyn.

Gallwch lawrlwytho copi o’r Adolygiad Blynyddol yma:

Dathlu cymydog da

Gall cael cymydog da wneud gwahaniaeth enfawr i gymuned ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i wobrwyo. Bwriad y cynllun yw diolch i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol I fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?

Fel tenant i ni, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, cewch chithau hefyd daleb siopa gwerth £10.

Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu eraill yna rydym eisiau clywed gennych!

Dyddiad cau: 25/10/2019

Ffurflen nomineiddio

Poster

TGC yn chwifio’r faner yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cawsom wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni.

Diolch i’r rhai ohonoch a ddaeth draw i’n stondin a chymryd rhan yn ein nifer o weithgareddau! Fe wnaethon ni gyflawni ein nod o feicio’r 186 milltir o Langollen i Abersoch ac yna Caergybi. Cawsom dros 200 o gynigion ar gyfer y gystadleuaeth arlunio plant hefyd, a oedd yn gwneud beirniadu yn anodd iawn!

Fe wnaethon ni gynnal cystadleuaeth tenantiaid i ennill tocynnau; llongyfarchiadau i’r rhai a enillodd, a diolch i Ace am bicio draw i ddweud helo!

 

Enillwyr y gystadleuaeth garddio

Gwyddwn nawr pwy yw garddwyr gorau Tai Gogledd Cymru gan fod enillwyr Cystadleuaeth Garddio 2019 wedi eu cyhoeddi.

Y rhestr lawn o enillwyr yw:

 

Yr Ardd Orau

Dwyrain

1af Sue Jeffrey Cae Mawr, Llandudno

2ail Dougie Weatherby Cae Mawr, Llandudno

Gorllewin

1af Maureen Evans Cae Bach, Tal y Bont

2ail Pendinas Hostel Bangor

 

Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf

Dwyrain

1af Joan Stansfield & Majorie Roberts Parc Menai, Llanfairfechan

2ail Carl Garner & Gary Blakemore Penrhos Korner, Cyffordd Llandudno

Gorllewin

1af Steven Blundell Ffordd Eithinog, Bangor

 

Yr ardd potiau orau

Dwyrain

1af Mrs Liliana Owen Llys y Coed, Llanfairfechan

2ail ar y cyd Mr Keri Llys y Coed, Llanfairfechan

2ail ar y cyd Mrs Jean Hayward Hafod y Parc, Abergele

3ydd ar y cyd Mrs Joan Collins & Mr Reginald Atkinson Taverners Court, Llandudno

3ydd at y cyd Mr & Mrs Blackman Llys y Coed, Llanfairfechen

Gorllewin

1af Mr & Mrs Parry Gallt y Sil, Caernarfon

2ail Norman & Pauline Bromley Llain Eglwys, Maesgeirchen

3ydd Fred Buckley Cae Garnedd Bangor

 

Gardd/gofod cymunedol taclusa

Dwyrain

1af Monte Bre Hostel, Llandudno

2ail Nerys Prosser & Pat Connor Llain Deri, Colwyn Bay

3ydd ar y cyd Llys y Coed Tîm Patio, Llanfairfechan

3ydd ar y cyd Mr Lesley Evans Llys y Coed, Llanfairfechan

Gorllewin

1af St Mary’s Hostel, Bangor

Roedd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad y Tenantiaid yn un o’r beirniaid a ymwelodd â’r ymgeiswyr i gyd:

“Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan, roedd y safon yn ofnadwy o uchel. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr.”

Bydd y gystadleuaeth garddio yn ôl eto blwyddyn nesaf, felly meddyliwch am eich cais nawr.

Ennill ticedi Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, ac rydym ni am fod yna!

Rydym ni eisiau chi ymuno a ni ac yn rhoi ffwr dau set o dicedi i denantiaid TGC.

Sut rydych am ennill? Licio ac ysgrifennu ‘Dwi isio mynd i’r Eisteddfod’ ar ein postyn Facebook yma.

Ddim ar Facebook? E-bostiwch [email protected] yn dweud ‘Dwi isio mynd i’r Eisteddfod’!

Dyddiad cau yw Dydd Mawrth 30 Gorffennaf. Mae’r gystadleuaeth mond ar agor i denantiaid Tai Gogledd Cymru. Bydd enillwyr yn cael eu dewis gan eneradur rhifyn ar hap.

Priosect celf newydd yn Tre Cwm, Llandudno

Fe’ch gwahoddir i ymuno â phrosiect celf ‘Mae’r wal yn’ am wal yn Nhre Cwm gyda llawer o weithdai a digwyddiadau am ddim:

  • Dydd Llun 24 Mehefin 4–6.30pm
  • Dydd Mercher 3 Gorffennaf 4–6.30pm
  • Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 10am – 4pm
  • Dydd Llun 15 Gorffennaf 4–6.30pm
  • Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf 10am – 4pm
  • Dydd Iau 25 Gorffennaf 10am – 4pm

Croeso i bawb – Dilynwch yr arwyddion o amgylch Tre Cwm i ddod o hyd i ni!

Darperir byrbrydau a lluniaeth yn y digwyddiadau.

Nod y prosiect yw i ni greu gwaith celf ar gyfer y wal ger y cylchfan ac yr A456. Sut y gall gynrychioli elfennau unigryw Tre Cwm? Beth yw’r straeon fydd yn dod â’r wal yn fyw ac yn gwahodd pobl i ddysgu am ei gilydd? Sut ydym ni’n dogfennu’r prosiect yn ddigidol? Dyma rai o gwestiynau i ddechrau.

Kristin Luke yw’r artist preswyl ar gyfer Tre Cwm. Yn wreiddiol o Los Angeles, symudodd i Ogledd Cymru yn 2017. Mae hi’n gwneud gwaith cerflunio, dylunio digidol a ffilm, am addysg, pensaernïaeth, ac iwtopias. Mae’n debyg y byddwch yn ei gweld yn eithaf aml o amgylch yr ystâd!

Mae hwn yn brosiect cyffrous newydd, sydd yn bendant angen grwˆp cyffrous o bobl i wneud iddo ddigwydd!

Dilynwch y priosect ar Facebook, Twitter a Instagram @TreCwm

#maerwalyn ac ychwanegwch #ansoddair