Adolygiad Blynyddol: Amser i edrych yn ôl ar 2019 – 2020

Dyma’r adeg honno o’r flwyddyn eto, yr amser ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) lle mae cyfranddalwyr yn dod ynghyd i drafod materion Llywodraethu. Eleni fydd y tro cyntaf i’r cyfarfod gael ei gynnal ar-lein oherwydd Covid-19.

Mae’r CCB yn rhoi cyfle inni edrych yn ôl ar y flwyddyn a aeth heibio, myfyrio ar ei heriau a dathlu ei lwyddiannau. Rydym wedi llunio’r Adolygiad Blynyddol hwn sy’n crynhoi’r flwyddyn yn dda. Cliciwch ar y llun i’w ddarllen:

Rydym yn croesawu adborth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr Adolygiad Blynyddol hwn, cysylltwch â [email protected] neu 01492 572727

Ennillwyr Cystadleuaeth Garddio 2020

Rydym yn falch o ddatgelu enillwyr enillwyr Cystadleuaeth Garddio Tai Gogledd Cymru 2020. Yr enillwyr yw…

Yr Ardd Orau

  1. Tomos Williams Cwm Teg, Old Colwyn
  2. Agnes Jones Cwrt WM Hughes Llandudno
  3. Residents of Ty John Emrys, Colwyn Bay (Including Geoff, Pat, Josh and Gina, and Sam

Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf

  1. Annette Herbert Maes yr Orsedd Llandudno
  2. Mark and Sharon Clarence Road Llandudno
  3. Joint 3rd Catherine Charles of Bryn Felin Conwy & Robbie Carr of Llain Cytir Holyhead

Yr ardd potiau orau

  1. Hafod y Parc Abergele residents (including Jean Hayward, Jim Mullins , and Violet Mort)
  2. Jack Morris of Bryn Felin Conwy
  3. Joint 3rd Brian Edwards of Monte Bre Llandudno & Carl Garner Penrhos Korner Llandudno Junction

Special mention and thanks also to the below who have been taken great care of their garden areas:

  • Taverners Court Llandudno residents – Val Conway, Marie Bailey, and Shirley Thomas
  • Llys y Coed Llanfairfechan residents Laslo Keri, David & Edelgarde Ware, Geoff & Brenda Uttley, Roger Sowersby , Don & Frances Blackman, and Dorothy Caldwell.
  • Noddfa Colwyn Bay  resident Andrew Roffey
  • Residents at St Mary’s Hostel, Bangor

Dywedodd Iwan, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Roedd y safon yn rhagorol eleni ac yn anodd iawn dewis yr enillwyr. Mae’r holl gynigion wedi creu argraff fawr arnom, mae’n amlwg bod yr holl ymgeiswyr wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod Covid-19 ac wedi gofalu am eu gerddi yn dda iawn. ”

Arolygon Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) gan cwmni Elvet

Yn cychwyn 1af Medi 2020 bydd cwmni o’r enw Elvet Construction yn cynnal arolygon Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) yng nghartrefi tenantiaid. Disgwyliwn i’r gwaith hwn barhau am  ychydig fisoedd o leiaf wrth iddynt weithio eu ffordd trwy 600+ eiddo.

Rydym yn gwneud y gwaith hwn am nifer o resymau sy’n gysylltiedig â gwella ein dealltwriaeth o’r eiddo a chynllunio ar gyfer unrhyw waith dadgarboneiddio posibl i gyflawni ein hamcanion oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Bydd staff Elvet i gyd yn cario cerdyn adnabod ac yn gwneud apwyntiadau ymlaen llaw. Maent wedi darparu asesiad risg llawn yng ngoleuni’r risg barhaus oherwydd Covid_19 a byddant yn defnyddio offer amddiffyn personol (PPE) priodol.

Diolch i chi am eich help i ganiatáu i’r arolygon fynd ymlaen wrth gydymffurfio â rheolau pellter cymdeithasol.

Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud

Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud ar sut mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei redeg!

Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd efo staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau.

Ein bwriad yw neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.

Oherwydd y cyfryngiadau Covid 19 rydym yn edrych i gynnal y cyfarfodydd hyn trwy sgwrs fideo. Rhoddir cefnogaeth lawn i denantiaid sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cyfarfodydd hyn.

I ymuno, cofrestru diddordeb neu ddysgu mwy am y Fforwm Tenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Cymryd Rhan!

Rydym eisiau rhoi ein tenantiaid wrth galon popeth fyddwn yn ei wneud… dewch i Gymryd rhan mewn pethau a rhoi eich barn ar sut mae Tai Gogledd Cymru’n cael ei redeg!

Pam ddylwn i gymryd rhan mewn pethau?

  • Er mwyn cael dweud eich barn ar wasanaethau tai a chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref chi a’r ardal rydych yn byw ynddi
  • Gallwch ddysgu sgiliau newydd
  • Gallwch gyfarfod preswylwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd – ac efallai hyd yn oed gael hwyl!
  • Gweld gweithredu’n digwydd ar y syniadau a’r pryderon rydych wedi’u codi, a hynny o fudd i wahanol bobl
  • Dod i adnabod staff Tai Gogledd Cymru a chyfarfod y bobl rydych wedi clywed eu henwau

Panel Tenantiaid a Chymunedau

Mae’r Panel yn cynnwys aelodau’r Bwrdd, tenantiaid a staff, ac mae’n cwrdd bob dau fis (ar hyn or bryd trwy sgwrs fideo oherwydd cyfyngiadau Covid 19)

Mae gan y Panel cyfrifoldeb am graffu ein gwasanaethau a perfformiad er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn derbyn y safanau gwasanaethau ucahf posibl.

Bydd aeloadau newydd yn derbyn cefnogaeth ac hyfforddiant.

Fforwm Tenantiaid

Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd efo staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau.

Ein bwriad yw neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.

Oherwydd y cyfryngiadau Covid 19 rydym yn edrych i gynnal y cyfarfodydd hyn trwy sgwrs fideo. Rhoddir cefnogaeth lawn i denantiaid sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cyfarfodydd hyn.

Mwy o wybodaeth

I ymuno, cofrestru diddordeb neu ddysgu mwy amdan y Panel Tenantiaid a Chymunedau ar Fforwm Tenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Newidiadau i drefniadau Cynlluniau Gofal Ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau o 1af Mehefin yn llacio rheolau cyfyngiadau symud, gan ganiatáu i aelodau dwy aelwyd ar wahân gwrdd yn yr awyr agored ar unrhyw un adeg cyn belled â’u bod yn aros yn lleol ac yn cynnal pellter cymdeithasol.

Rydym wedi ystyried yn ofalus sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ein Cynlluniau Gofal Ychwanegol. Ein pryder cyntaf bob amser yw diogelwch ein preswylwyr a’n staff ac rydym wedi ystyried yn ofalus sut y gellir gweithredu’r newidiadau hyn yn ymarferol.

  • Bydd ymwelwyr nawr yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ar y cynllun; byddant wedi cael canllawiau ychwanegol.
  • Byddwn yn dynodi ardaloedd cymdeithasol ar y cynllun ar gyfer lletya ymwelwyr.
  • Rydym yn gofyn i ymwelwyr gwneud apwyntiadau ymwelwyr gyda’r Rheolwr ymlaen llaw i sicrhau bod gennym ddigon o seddi a mesurau pellter cymdeithasol ar waith bob amser.
  • Rhaid i bobl hefyd barhau i olchi eu dwylo yn drylwyr ac yn aml.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech wneud apwyntiad, cysylltwch â Rheolwr y cynllun.

Cymorth a Hawliau Ariannol Coronavirus

Mae’r pandemig coronafirws yn amser pryderus; yn ogystal â phoeni am ein hiechyd rydym yn deall y gallech fod yn poeni am eich lles ariannol.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, wedi colli’ch swydd oherwydd y Coronafirws neu’n meddwl tybed a oes gennych hawl i dâl salwch statudol, gallai’r ddolen ganlynol fod yn ddefnyddiol:

Gwefan Moneysavingexpert www.moneysavingexpert.com/news/2020/03/uk-coronavirus-help-and-your-rights/

Gallwch hefyd ddarganfod mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar wefan y Llywodraeth yma www.gov.uk/self-employment-and-universal-credit

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y byddan nhw’n talu cyflogau gweithwyr hyd at 80% o’u cyflog hyd at uchafswm o £2500. Nid yw’r manylion wedi’u cwblhau eto; byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth pan fydd ar gael.

Cymorth meter trydan a nwy

Methu mynd allan i ychwanegu pres ar eich meter trydan neu nwy? Cysylltwch â’ch cyflenwr i gael dulliau amgen. Efallai y gallwch ychwanegu at Ap, ar-lein neu efallai bostio cerdyn atodol i chi.

Cysylltwch â’r Tîm Rhenti ar 01492 572727 os oes gennych newid yn eich cyllid sy’n ei gwneud hi’n anodd talu’ch rhent. Gallwch gysylltu â’r Tîm Rhenti ar [email protected] neu ffonio 01492 572727.

Diwrnod agored tai Bae Penrhyn

A ydych angen tŷ fforddiadwy newydd?

Mae cyfle i chi fynegi eich diddordeb am dy newydd fforddiadwy mewn diwrnod agored a gynhelir yn:

Neuadd Dewi Sant, Bae Penrhyn ar

Ddydd Gwener 28ain o Chwefror 2020 rhwng 3.00pm a 6.30pm

Lawrlwythwch y poster

Gwobrwyo enillydd Cymydog Da

Eleni oedd yr ail dro i ni gyflwyno’r Wobr Cymydog Da. Pwrpas y gwobrau hyn yw talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion.

Enillydd eleni yw Robert Lloyd o Maes Clyd Llandudno, a enwebwyd gan un o’i gymdogion, Teressa Roberts o Maes Clyd.

Meddai Teressa:

“Pan symudais i yma doeddwn i ddim yn nabod unrhyw un yn yr ardal. Doedd gen i ddim teulu yma. Mae’n ddyn gwirioneddol garedig a gododd fy ysbryd a wnaeth fy helpu yn ôl ar fy nhraed. Mae hefyd wedi bod fel taid i fy merch.

Dyma’r rhai ddaeth yn ail (nid mewn unrhyw drefn arbennig)

  • James Mullins Hafod y Parc, Abergele
  • Lorraine a Mal Jones Cae Clyd Llandudno
  • Kelly Morris Cae Mawr Llandudno

Llongyfarchiadau i Robert, James, Lorraine a Mal, a Kelly a diolch i bawb wnaeth enwebu cymydog.

Cynllun tai £1.5m newydd Bae Colwyn yn cael ei agor yn swyddogol

Agorwyd datblygiad tai fforddiadwy newydd Nant Eirias ym Mae Colwyn yn swyddogol gan Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn digwyddiad ffurfiol ar ddydd Iau, y 3ydd o Hydref 2019.

Mae cyfanswm o 12 fflat un a dwy ystafell wely wedi’u hadeiladu gan Tai Gogledd Cymru fel rhan o’r prosiect £1.5 miliwn.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr, Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi creu 12 cartref rhent fforddiadwy newydd ym Mae Colwyn. Mae hyn yn ganlyniad i weithio mewn partneriaeth ardderchog gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi gwella rhagolygon tai teuluoedd lleol ifanc ac wedi helpu i fynd i’r afael â’r mater ehangach o brinder tai.

Y cartrefi newydd oedd datblygiad rhent canolraddol cyntaf Tai Gogledd Cymru; mae hyn yn golygu eu bod wedi’u hanelu at bobl mewn gwaith, neu sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol ond yn cael eu gosod ar rent is na’r rhent a godir am gartrefi tebyg yn yr ardal gan landlordiaid preifat. Roedd y gosodiadau’n cael eu rheoli gan Tai Teg, Cofrestr Cartrefi Fforddiadwy Conwy.

Mae’r datblygiad newydd yn rhan o Raglen Adfywio Bywyd y Bae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; a ddatblygwyd gyda chefnogaeth grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rydym eisiau cefnogi ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd deniadol, bywiog i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw – ac roeddwn i’n falch o weld y datblygiad gorffenedig a gobeithio y bydd y preswylwyr yn hapus yn eu cartrefi newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Dai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Roedd y safle hwn wedi bod yn ddolur llygad ers blynyddoedd ac, o ystyried ei leoliad, roedd yn lle delfrydol ar gyfer eiddo preswyl. Felly, rwy’n falch iawn o weld y datblygiad hwn o dai fforddiadwy o ansawdd da yn dwyn ffrwyth. Mae tai fforddiadwy i bobl leol yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Rwy’n gobeithio bod y tenantiaid yn ymgartrefu’n dda a hoffwn ddymuno’r gorau iddynt yn eu cartrefi newydd.”

Nid y preswylwyr yn unig sydd wedi elwa o’r datblygiad newydd hwn, bu llawer o fuddion cymunedol hefyd, gan gynnwys hyfforddiant lleol a chyfleoedd cyflogaeth.

Mae’r cartrefi newydd yn effeithlon o ran costau rhedeg ynni – ystyriaeth allweddol o ariannu’r cynllun trwy Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Conwy a Llywodraeth Cymru.