Mae geifr gwyllt a ddenodd sylw ledled y byd gyda’u crwydro digri ar hyd strydoedd gwag Llandudno yn ystod y cyfnod clo yn cael eu hanfarwoli mewn gwaith celf newydd trawiadol.
Bydd y wal derfyn o amgylch ystâd Tre Cwm yn y dref yn cael gweddnewidiad lliwgar, ar ôl cael caniatâd cynllunio i osod murlun newydd trawiadol arni.
Mae’r gwaith celf yn portreadu llawer o’r pethau sy’n fwyaf cysylltiedig â Llandudno, gan gynnwys geifr Kashmiri a ddaeth yn adnabyddus ledled y byd ar ôl crwydro lawr i ganol y dref y llynedd a bwyta beth bynnag oedd yn cymryd eu ffansi.
Bydd y murlun yn cael ei weld gan filoedd o fodurwyr bob dydd wrth iddynt yrru mewn i Landudno o gyfeiriad Deganwy, gan estyn croeso i’r dref yn yr un modd ag arwydd enwog ‘Croeso i Landudno’ sy’n cyfarch ymwelwyr sy’n cyrraedd o gyfeiriad Bae Penrhyn.
Mae’r artist Kevin Stonehouse, sydd wedi byw ar yr ystâd am y rhan fwyaf o’i oes, wedi darlunio’r geifr yn eu hamgylchedd arferol ar y Gogarth.
Yn cyd-fynd â’r geifr ar y gwaith celf y mae Alys yng Ngwlad Hud, cymeriad eiconig arall sydd â chysylltiadau lleol, a golygfeydd cyfarwydd eraill fel y promenâd, llethr sgïo a thramffordd y dref.
“Mae’r geifr yn rhan fawr o dreftadaeth y dref. Roedd hi’n braf gallu eu cynnwys.
“Roeddwn hefyd yn hapus i allu cynnwys Alice in Wonderland. Yn aml, rwyf wedi ei rhoi mewn paentiadau a phenderfynais y byddai’n iawn canfod lle iddi ar y murlun yma.
“Rwyf wedi ceisio cynnwys llawer o wahanol bethau y mae pobl yn eu cysylltu â’r dref. Mae’n dref mor brydferth.
“Rwy’n gyffrous wrth feddwl y bydd y gwaith celf yn mynd ar y wal cyn bo hir ac rwy’n teimlo’n falch iawn.”
Mae derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynrychioli penllanw dwy flynedd o waith caled gan breswylwyr yr ystâd, menter gymdeithasol Culture Action Llandudno (CALL), cymdeithas dai Cartrefi Conwy a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, sy’n berchen y wal.
Gweithiodd Kristin Luke, artist preswyl yr ystâd, yn agos gyda phreswylwyr ar y prosiect o’r enw ‘Y Wal yw _____’ (‘The Wall is _____’) i archwilio’r ffordd orau o dacluso’r wal.
Roedd proses ymgysylltu hir yn cynnwys mwy na 25 o weithgareddau i annog cyfranogiad preswylwyr, gan gynnwys cael fan gelf ar yr ystâd am wythnos a theithiau cerdded natur.
Daliwyd llygaid y preswylwyr gan syniadau a gyflwynwyd gan Kevin, sy’n dad i dri – ac sydd â gradd mewn Celf ac sydd wedi gweithio fel peintiwr ac addurnwr.
Tynnodd ar ei ddoniau i gynhyrchu sgrôl liwgar yn portreadu bywyd Llandudno, ond cafodd ei synnu gan y derbyniad gwresog a gafodd ei syniadau.
“Treuliais ychydig ddyddiau yn gweithio arno gyda’r bwriad o daflu ychydig o syniadau bras at ei gilydd. Ond roedd pobl wrth eu boddau ac eisiau ei ddefnyddio ar gyfer y wal,” meddai Kevin.
“Rydw i wedi byw yma ers amser hir ac rwy’n adnabod cymaint o bobl ar yr ystâd. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau gweld yr hyn rydyn ni wedi’i greu unwaith y bydd i fyny ar y wal.”
Bydd panel dehongli yn cyd-fynd â’r murlun sy’n cynnig gwybodaeth am y prosiect ac yn dathlu treftadaeth yr ystâd, gyda’r preswylwyr unwaith eto yn rhannu syniadau am yr hyn y gellid ei gynnwys.
Roedd Sabine Cockrill, cyfarwyddwr CALL, yn ymwneud â helpu i ddod o hyd i arian ar gyfer y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys gwneud cais llwyddiannus am grant i Sefydliad Paul Hamlyn.
Dywedodd Iwan Evans, cydlynydd cyfranogiad tenantiaid Tai Gogledd Cymru:
“Ni sy’n berchen ar y wal ac rydym yn falch o’r hyn sy’n mynd i fynd arno. Rwy’n credu y bydd y murlun yn fuddiol i’r ardal ac mae’r wal mewn lleoliad amlwg.
“Mae hon wedi bod yn ymdrech tîm sydd wedi cynnwys ni ein hunain, Cartrefi Conwy, yr artistiaid, aelodau’r gymuned a CALL.
“Mae wedi bod yn braf gweld cymaint o ymgysylltu cymunedol sydd wedi digwydd yn ystod y prosiect.
“Mae’n braf bod y gymuned wedi chwarae cymaint o ran.”
Y gobaith yw y bydd y gwaith gosod yn cychwyn yn fuan ac y bydd y murlun i’w weld o’r gwanwyn, gyda bwriad hefyd i gynnal seremoni ddadorchuddio.