Tai Gogledd Cymru’n addo cefnogaeth i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyhoeddi eu bod am gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru gyda gwahanol fathau o gynlluniau a heriau elusennol er mwyn cynorthwyo i godi arian.

Daeth y cyhoeddiad hwn gan Brif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, Paul Diggory, yng nghynhadledd flynyddol y gymdeithas.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen i Gymru gyfan, yn darparu gwasanaeth awyr brys i bobl sydd â salwch neu anafiadau sy’n peryglu eu bywyd. Nid yw;r Ambiwlans Awyr yn derbyn ariannu uniongyrchol, a bydd yr holl arian y mae ei angen yn cael ei godi trwy roddion elusennol, digwyddiadau codi arian ac aelodaeth o’r Loteri Achub Bywydau yn ein sefydliad.

Eglurodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, pam eu bod wedi dewis yr elusen yma:

“Bob blwyddyn fe fyddwn ni’n dewis elusen i’w chefnogi a chodi arian ar ei chyfer. Eleni’r staff oedd yn penderfynu ac roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn ddewis amlwg. Mae eu gwaith yn gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth yn y rhan fwyaf o achosion.”

“Ni fydd yr Ambiwlans Awyr yn cael unrhyw arian uniongyrchol ac mae eu holl arian yn dod o roddion elusennol a gwaith codi arian. Felly rydym eisiau eu helpu i gael y swm anferth o £6 miliwn y maen nhw ei angen bob blwyddyn i redeg y gwasanaeth.”

Roedd Medwyn Hughes, Cyd-drefnydd Conwy ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, yn y Gynhadledd Staff ac fe soniodd am y gwaith gwych fy byddant yn ei wneud a sut bydd yr arian fydd Tai Gogledd Cymru’n ei godi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Dywedodd Medwyn:

“Cefnogaeth fel hyn sy’n caniatáu i hofrenyddion Cymru barhau i hedeg a helpu pobl pan fyddant fwyaf o angen hynny. Rydan ni’n falch iawn bod Tai Gogledd Cymru wedi pleidleisio dros Ambiwlans Awyr Cymru, bydd eu haddewid nhw’n helpu i achub llawer o fywydau.”

Roedd dechrau da i’r gwaith o godi arian yn y gynhadledd staff, gan godi £320.25 trwy werthu tocynnau raffl, un o denantiaid y Gymdeithas Tai yn bysgio, a chyfraniadau cyffredinol eraill.

Y digwyddiad codi arian nesaf fydd Marathon Gerdded wedi’i threfnu gan Fenter Môn, ar Ynys Môn ddydd Sul 24 Mai. Bydd staff Tai Gogledd Cymru yn cerdded yr hanner marathon a’r un llawn, ac yn cyfrannu’r tâl cofrestru ac arian y noddwyr tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Helpu’r digartref ym Mangor wrth i oerfel y gaeaf ddechrau brathu

Mae Hostel Santes Fair i’r digartref ym Mangor wedi lansio ei apêl Gaeaf blynyddol i gefnogi rhai sy’n cysgu allan yn y dref a’r cyffiniau wrth i’r tymor oer ddechrau. Ffeindiwch allan sut fedrwch chi helpu.

Mae’r hostel yn cynnig cymorth a chefnogaeth i ddynion a merched digartref lleol, gan ddarparu llety ar gyfer hyd at 13 o bobl. Mae Santes Fair bob amser yn llawn i’r ymylon ac mae’r hostel hefyd yn cefnogi pobl sy’n cysgu allan nad yw’n gallu cynnig lle dan do iddynt, gan ddarparu eitemau allweddol gan gynnwys sachau cysgu, pebyll, blancedi a dillad, sy’n hanfodol ar gyfer goroesi wrth i’r tywydd oer ddechrau brathu.

Er gwaethaf casglu cryn dipyn o bebyll a sachau cysgu o nwyddau a gafodd eu gadael ar ôl yng Ngŵyl Wakestock a Gŵyl Rhif 6 eleni mae’r hostel yn dal yn brin o rai eitemau hanfodol.

Dywedodd Rheolwr Cynllun Santes Fair, Rob Parry:

“Eleni rydym yn arbennig o brin o eitemau megis pebyll, sachau cysgu a blancedi. Rydym yn dibynnu ar roddion fel hyn i roi amddiffyniad i bobl rhag y tywydd gwael. Heb hyn, ni fyddem yn gallu helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”

Ychwanegodd Rob:

“Mae croeso arbennig ar yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd i bobl gyfrannu bwydydd tun a bwydydd sydd ddim yn ddarfodus. Rydym yn ddiolchgar am bob rhodd, waeth pa mor fawr neu fach ac mae pob eitem yn helpu.”

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu rhodd alw heibio Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon ym Mangor neu unrhyw un o Swyddfeydd Tai Gogledd Cymru ym Mangor neu Gyffordd Llandudno. Neu ffoniwch 01248 362211 i drafod ymhellach.

Gynd â’r gwastraff adref

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto pan fydd ffrindiau a staff Tai Gogledd Cymru yn ymweld â safle gŵyl Wakestock yn Abersoch i gasglu llwyth o offer gwersylla a adawyd ar ôl er mwyn eu hailddosbarthu i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn ystod misoedd y gaeaf.

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae’r tîm wedi llwyddo i gasglu 69 pabell, 48 sach gysgu, 45 mat, 15 gwely aer, 22 cadair gwersylla, 10 pâr o esgidiau glaw yn ogystal â bagiau oeri, cynfasau llawr, blancedi, clustogau aer, matiau picnic, pegiau pabell ac esgidiau rhedeg!!

Mae cymysgedd o ddefnyddwyr staff a chyfeillion gwasanaeth digartref Santes Fair a Thai Gogledd Cymru wedi ymuno i gasglu’r deunyddiau, a fydd yn darparu cymorth hanfodol i lawer o bobl sy’n cysgu allan yng Ngogledd Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r casgliad blynyddol yn parhau i lenwi bwlch sylweddol yng nghyllideb Tai â Chefnogaeth Tai Gogledd Cymru, gan alluogi’r gymdeithas i ddarparu pecynnau gaeaf hanfodol sydd wedyn yn cael eu dosbarthu wrth fynedfa’r hostel ym Mangor.

Dywedodd Kerry Jones o Tai Gogledd Cymru:

“Mae digwyddiad Wakestock yn gyfle gwych i ni hel a chasglu offer gwersylla o safon nad oes eu hangen, sydd wedi cael eu defnyddio yn bennaf ar gyfer yr un digwyddiad hwnnw. Rydym yn cymryd ein helfa yn ôl i’r hostel, ei lanhau ac yna’n ei ailddosbarthu yn y gaeaf pan fydd pobl sy’n cysgu ar y stryd, yn methu dod o hyd i wely am y noson, ac mewn angen cymorth a lloches ychwanegol.”

Mae pecyn gaeaf nodweddiadol yn cynnwys pabell, sach gysgu, blanced, offer oeri a bwyd tun. Caiff y pecynnau eu dosbarthu i yn bennaf ger mynedfa hostel Santes Fair ym Mangor wrth i’r tywydd oer ddechrau brathu.

Ychwanegodd:

“Hoffem ddiolch unwaith eto i drefnwyr Wakestock am hwyluso’r dydd a chaniatáu i ni ddod ar y safle. Unwaith eto mae eu gwastraff sbâr yn mynd i le gwych!”

“Fodd bynnag, rydym yn dal angen rhai hanfodion sylfaenol ac mae gwir angen arnom am dopiau a gwaelodion tracwisg, esgidiau rhedeg a bŵts, sanau a dillad isaf, yn bennaf ar gyfer dynion. Os oes gan unrhyw un unrhyw eitemau nad ydynt eu hangen ac yn gallu rhoi, galwch i mewn i hostel digartref Santes Fair ym Mangor lle byddem yn falch o dderbyn unrhyw roddion.”

Her 40 mlynedd TGC yn codi pres i elusen

Mae tîm uchelgeisiol o bobl egnïol wedi cwblhau her 40/40 Tai Gogledd Cymru!

Ar ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf, cynhaliwyd pedwar digwyddiad ar draws y gymdeithas, i nodi ‘her 40/40’, gyda’r cyfan wedi ei gyd-drefnu gan Emma Williams o TGC.

Cymerodd dros 50 o staff Tai Gogledd Cymru ran yn y diwrnod, oedd yn cynnwys beicio 40 milltir, taith gerdded 10 milltir a rhedeg 10 milltir, a hefyd taith gerdded un filltir i deuluoedd. Fe gafodd cyfanswm o £1900 ei gasglu ar gyfer yr elusen a ddewiswyd gan y gymdeithas, sef Hosbis Plant Tŷ Gobaith.

Dywedodd Paul Diggory, fu’n cymryd rhan drwy redeg y 10 milltir:

“Roeddem wedi dewis gwneud y digwyddiad yn un i’r gymdeithas gyfan fel bod pawb yn gallu cymryd rhan, ac wedi rhoi dewis o wahanol heriau chwaraeon. Rydan ni wedi cael llawer o gefnogaeth oddi wrth ein staff a hefyd ein noddwyr, ac yn hynod falch o’r cyfanswm ardderchog o arian sydd wedi cael ei gasglu!”

Cychwynnodd y beicwyr am 9yb o’r Pafiliwn yn y Rhyl, y cerddwyr am 11yb o gartref gofal ychwanegol Llys y Coed, y rhedwyr am 1yp hefyd o Lys y Coed, a’r daith gerdded i’r teulu am 2yp ar gyrion Bangor.

Fe ddaeth y grŵp at ei gilydd ddiwedd y prynhawn ym Mhwll Nofio Bangor, lle’r oedd cyfle i gael cawod cyn mynd i Lys y Coed am farbeciw gwych wedi’i drefnu gan reolwr y cynllun, Cheryl Haggas a’r staff arlwyo yno.

Ac fe ychwanegodd Paul:

“Roedd hwn nid yn unig yn wych ar gyfer codi arian ond hefyd yn gyfle i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 40 fel cymdeithas, a pha well ffordd o ddathlu na fel hyn! Da iawn i bawb fu’n cymryd rhan.”

Y Principality yn rhoi busnes yn y gymuned ar waith

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn helpu defnyddwyr gwasanaeth yn hostel Pendinas i’r digartref ym Mangor i wisgo’n drwsiadus i greu argraff.

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi cyfrannu rhodd o nifer o wisgoedd, y gall y preswylwyr eu defnyddio pan fyddan nhw’n mynychu cyfweliadau am swydd.

Mae’r Gymdeithas Adeiladu hefyd yn helpu Pendinas drwy gyfrannu offer a phlanhigion i brosiect garddio’r hostel, y mae’r holl drigolion yn cymryd rhan ynddo.

Dywedodd Else Lyon, Rheolwr Cynllun ym Mhendinas:

“Mae’r prosiect garddio wedi dod yn bwysig iawn i bawb yma ym Mhendinas. Mae’r defnyddwyr gwasanaeth wedi gweddnewid yr ardd ac wedi treulio llawer o amser yn plannu a thrin ein llysiau a’n ffrwythau ein hunain, ac rydym wedyn yn gallu defnyddio’r cynnyrch yn ein ryseitiau yma a hyrwyddo coginio a bwyta’n iach.”

“Mae’r cymorth gan y Principality wedi dod ar amser gwych gan fod y gwanwyn yn y tir. Bydd hyn yn ein helpu i brynu mwy o blanwyr, compost a hadau a gallu paratoi mwy o fwydydd ar gyfer y tymor nesaf. “

Mae’r Principality a Pendinas yn rhan o fenter ‘Seeing is Believing’ Busnes yn y Gymuned sy’n cynnig amrediad o gefnogaeth i grwpiau ac elusennau cymunedol lleol.

Mae Pendinas, cynllun a reolir gan Tai Gogledd Cymru (ynghyd â hostel y Santes Fair sydd hefyd ym Mangor) wedi bod yn gweithio gyda nifer o fusnesau lleol sydd wedi dangos eu hymrwymiad a’u cefnogaeth trwy ystod o fentrau arloesol ac ymarferol.

Dywedodd Kelly Williams, rheolwr cangen Bangor o Gymdeithas Adeiladu’r Principality:

“Rydym yn falch o fod wrth galon ein cymunedau ac rydym yn awyddus i roi cymorth i’r gwasanaeth hanfodol yma i bobl ym Mangor. Rydym yn gobeithio y bydd yr offer garddio yn helpu preswylwyr i dyfu eu bwyd rhad a maethlon eu hunain, ac ar yr un pryd yn eu helpu i ddysgu mwy am goginio a bod yn fwy hunan-gynhaliol.”

“Gall cyfweliadau swydd fod yn wirioneddol anodd, yn enwedig heb y dillad iawn, felly rydym yn falch iawn o allu helpu drwy roi ein gwisgoedd ac rydym yn dymuno pob lwc i’r preswylwyr gyda’u cyfweliadau.”

Mae’r Principality wedi cefnogi amryw o achosion tebyg yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys tîm rygbi dan 10 Bangor a’r tîm pêl-rwyd mewn ysgol yn Yr Wyddgrug.

Staff Tai Gogledd Cymru ar gefn eu beiciau i Nikki

Mae tîm o naw o staff Tai Gogledd Cymru wedi mynd ar gefn ar ei beiciau mewn ras uchelgeisiol er mwyn hel pres i gydweithwraig â chanser.

Cychwynnodd y grŵp, sef Andrea Williams, Gethin Morris, Catrin Roberts, Nathan Wright, Rich Snaith, Phil Danson, Shelley Williams, Clare Greenwood a Jude Horsnell ar eu taith 54 milltir yn ystod cymal cyntaf yr her hel arian hon o Fae Colwyn i Ddolgellau. Fe wnaethon nhw ymuno â thîm o 16, gan feicio o Fae Colwyn i Gasnewydd, 180 milltir dros dri diwrnod.

Mae “Hope 4 Nikki” wedi ei sefydlu gan Gyfeillion Nikki Thomas o Grŵp Seren er mwyn helpu i dalu am driniaeth a therapi ac ymchwiliadau arbenigol iddi gan fod ganddi ganser prin nad oes ariannu ar gyfer ei drin yng Nghymru.

Mae beicwyr o amrywiol sefydliadau ar draws Cymru wedi addo cyfrannu, gan gynnwys Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Grŵp Seren, Tai Calon, Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru, Tai RhCT a Thai Cymunedol Cymru.

Hyd yma mae nawdd gan ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr wedi casglu £5,000 ac mae’r swm yn dal i gynyddu!

Dywedodd Jude Horsnell o Tai Gogledd Cymru:

“Rydym i gyd yn brifo ar ôl bpd ar gefn ein beiciau am amser hir, ond rydym i gyd wedi mwynhau’r diwrnod ac wedi cael ein cyffwrdd gan y gefnogaeth a gawsom. Rydym wedi codi swm gwych ar gyfer achos teilwng iawn ac rydym yn falch iawn o allu  helpu i ariannu triniaeth pwysig i gydweithiwr a ffrind.”

Defnyddwyr gwasanaeth yn dysgu sgiliau tg diolch i BT

Mae defnyddwyr gwasanaeth yn hostel i’r digartref Pendinas ym Mangor yn gweithio ar ddatblygu sgiliau TG hanfodol, diolch i rodd o ddau gyfrifiadur personol gan BT.

Cyn hynny nid oedd gan yr hostel, sy’n cael ei reoli gan Tai Gogledd Cymru, unrhyw offer TG, oedd yn golygu bod pob ffurflen, cais am swyddi a gohebiaeth yn gorfod cael ei gwblhau â llaw neu drwy ddefnyddio cyfrifiaduron allanol. Bellach, gyda chefnogaeth y staff, mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn gallu datblygu sgiliau TG sylfaenol, a fydd yn eu helpu wrth iddynt barhau â’u taith yn ôl tuag at fyw’n annibynnol.

Dywedodd Else Lyon, Rheolwr Hostel Pendinas:

“Mae sgiliau TG yn hanfodol yng nghymdeithas heddiw ac yn y farchnad swyddi ehangach. Gyda chyllid eisoes o dan straen aruthrol, nid oes unrhyw ffordd y gallem fforddio prynu unrhyw offer, felly mae’r rhodd yma wedi bod yn wych.”

“Datblygodd ein cysylltiad â BT yn sgîl menter Busnes yn y Gymuned. Mae BT wedi cynnig rhywfaint o gymorth hynod ystyriol a fydd yn cael effaith barhaol a chadarnhaol ar bobl yr ydym yn gweithio â hwy – pobl yn aml iawn sy’n agored i niwed – ac mae’r rhodd anhygoel yma yn rhan o hynny, a rhoi cyfle hefyd i ddefnyddwyr ein gwasanaethau gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith.”

“Mae cefnogaeth fel hyn yn amhrisiadwy i ni ac yn ffordd o roi help llaw hanfodol i’n defnyddwyr gwasanaeth.”

Dywedodd Geraint Strello, rheolwr rhanbarthol BT:

“Mae BT yn deall pwysigrwydd cael sgiliau TG a mynediad at offer TG ac rydym yn falch o gefnogi’r gwaith a wneir gan Tai Gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cyfrifiaduron hyn o werth gwirioneddol ac yn helpu defnyddwyr gwasanaeth yn yr hostel.”

Waitrose yn cefnogi’r digartref ym Mangor

Mae Waitrose ym Mhorthaethwy yn darparu parseli bwyd rheolaidd i ddefnyddwyr gwasanaeth digartrefedd yn hostel Pendinas ym Mangor.

waitrose

Mae’r archfarchnad wedi bod yn casglu bwydydd, lle mae’r deunyddiau pecynnu wedi’u difrodi neu wedi mynd heibio’r dyddiad arddangos, ac yna’n eu pasio ymlaen i’r hostel, gan roi hwb i’r darpariaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Bu rheolwr cangen Waitrose ym Mhorthaethwy, Gareth Hind, ar ymweliad â’r hostel sy’n cael ei rheoli gan Tai Gogledd Cymru drwy fenter ‘Seeing is Believing’ Busnes y n y Gymuned. Mae’r fenter yn annog busnesau i ymwneud â’u cymuned leol mewn materion cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol. Mae’r siop bellach yn cefnogi’r hostel drwy nifer o fentrau, a’r gyntaf oedd cyflenwi rhoddion bwyd rheolaidd.

Mae aelodau o dîm Pendinas yn casglu’r parseli wedi eu pacio’n barod ac yn eu rhannu ymhlith defnyddwyr gwasanaeth gan ddefnyddio cynhwysion sy’n annog bwyta’n iach.

Dywedodd Lyon Else, Rheolwr Hostel Pendinas:

“Mae Waitrose wedi bod yn wych yn yr ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i ni. Maent yn rhoi parsel bwyd gwych i ni o leiaf unwaith yr wythnos sy’n cynnwys pecyn gwirioneddol amrywiol o gynnyrch a nwyddau o ansawdd.”

“Nid yn unig y mae’r cymorth bwyd y llenwi bwlch mewn cronfeydd ond mae’r gwahanol mathau o fwyd a gawsom hefyd yn annog defnyddwyr gwasanaeth i feddwl am sut y gallant eu defnyddio a ffyrdd o’u coginio neu eu paratoi.”

Dywedodd Gareth Hind, Rheolwr Cangen Waitrose ym Mhorthaethwy:

“Mae’n wych gallu darparu parseli bwyd i gefnogi’r hostel ym Mhendinas a’r gwaith gwych y maent yn ei wneud yn ein cymuned. Fe wnes i fwynhau fy ymweld â’r hostel a chyfarfod pawb yno, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda nhw yn y dyfodol, gan gynnwys mentrau fel helpu defnyddwyr gwasanaeth i baratoi ar gyfer cyfweliadau a gwneud cais am swydd.”