Anghofiwch am y Great British Bake Off, Medi oedd amser Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan!
Y Bore Coffi, a gynhaliwyd ar 30ain o fis Medi yw digwyddiad codi arian mwyaf Macmillan i bobl sy’n wynebu canser. Mae pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cynnal eu boreau coffi eu hunain gyda’r rhoddion ar y diwrnod yn mynd i Macmillan.
Mi wnaeth nifer o breswylwyr TGC gynnal eu boreau coffi eu hunain. Estynnodd preswylwyr cynlluniau Pobl Hŷn Cae Garnedd, Y Gorlan, Taverners Court a Hafod y Parc am eu ffedogau a choginio pethau blasus ar gyfer yr ymgyrch codi arian sy’n digwydd ledled y DU, gan godi bron i £1,500 ar gyfer yr elusne canser.
Roedd bore coffi Taverners Court yn ymdrech ar y cyd gyda ffrindiau Taverners o floc cyfagos sydd ag aelod o’r teulu yn dioddef o ganser ar hyn o bryd.
Dywedodd Susan Gough, Warden yn Taverners Court:
“Daeth dipyn o bobl draw i’r digwyddiad gyda phreswylwyr, ffrindiau o’r blociau cyfagos, y gymuned leol a phreswylwyr a staff o Gartref Gofal Brigadoon yn Llandudno yn bresennol.”
Da iawn i bawb a gymerodd ran a mynychu’r bore coffi – rydym yn edrych ymlaen at un y flwyddyn nesaf yn barod!!