Mwy o dai un ystafell wely diolch i gynllun tai newydd

Mae’r angen cynyddol am dai gydag un ystafell wely, sydd wedi ei ddwysau gan y ‘dreth ystafell wely’ a gyflwynwyd llynedd, wedi sbarduno datblygiad o naw cartref newydd yn Llandudno.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cael gafael ar safle tir llwyd ar Ffordd Bod-Hyfryd, Llandudno, gan ddymchwel yr adeilad gwag oedd yno a chreu’r datblygiad newydd o 9 fflat un ystafell wely o’r enw ‘Y Stablau’.

Mae Deddf Diwygio Lles 2013 yn golygu y bydd unrhyw berson neu bersonau sy’n tan-feddiannu eu tai cymdeithasol o un ystafell wely neu fwy yn gweld gostyngiad o 14% neu 25% yn eu budd-dal tai. Mae hyn yn ychwanegu at y galw am fwy o dai un ystafell wely. Wedi ei gwblhau, bydd ‘Y Stablau’ yn helpu i gyflenwi’r angen cynyddol hwn, ac mae cymysgedd o bobl sengl a chyplau – rhai ohonynt angen cymorth i fyw’n annibynnol – wedi cael eu dewis fel tenantiaid ar gyfer y cartrefi newydd hyn.

Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu yn unol â Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy, sy’n golygu lefelau inswleiddio uchel, lleihau defnydd ynni a lleihau biliau ynni cyfartalog.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae gofyn clir am y math hwn o eiddo, ac er nad yw’r un o denantiaid y Stablau wedi eu symud oherwydd effaith y dreth ystafell wely, rydym yn edrych ar nifer o safleoedd eraill ar hyd a lled gogledd Cymru lle gallwn ail-ddatblygu neu adeiladu cynlluniau tebyg.”

“Rydym yn dal i geisio dyrannu ein heiddo yn unol â chriteria’r dreth ystafell wely, ond rydym yn gwneud cynnydd ac wedi gweld lleihad yn y nifer o denantiaid sy’n tan-feddiannu – o 309 achos ym mis Ebrill i 268 heddiw. Ychydig dros 10% o’n tenantiaid sy’n tan-feddiannu eiddo erbyn hyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda nhw er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r opsiynau sydd ar gael iddynt, a’u bod yn cael y cyfle gorau i dalu eu diffyg mewn rhent wythnosol.”

Ychwanegodd Paul:

“Fel cymdeithas tai, mae tan-feddiannu yn cael effaith niweidiol ar ein gallu i rentu eiddo, yn benodol fflatiau dwy ystafell wely i fyny grisiau, a thai pâr tair ystafell wely. Mae rhai tai yn anodd i’w rhentu erbyn hyn, un ai oherwydd nifer yr ystafelloedd gwely neu’r lleoliad. Mae’n sefyllfa anodd ond rydym yn cadw llygad manwl arni.”

Cwblhau datblygiad Pen Morfa

Mae datblygiad tai moethus yn Abbey Road, Pen Morfa Llandudno, wedi cael ei gwblhau a’i drosglwyddo yn dilyn rhaglen adeiladu 12 mis.

Mae’r gyfres o fflatiau modern, wedi’i lleoli yn un o gyfeiriadau mwyaf nodedig y dref, ac wedi’i chynllunio yn arbennig ar gyfer pobl dros 55 oed. Lleolir y datblygiad ar safle hen gyrtiau tennis ac mae yno olygfeydd arbennig ar draws y bae, Mae ‘Hafan Gogarth’ yn cynnwys 35 o fflatiau dwy ystafell wely, a osodwyd ar draws dri llawr, ac mae pob un ar gael i’w gwerthu trwy brydles. Mae 9 o fflatiau eisoes wedi cael eu neilltuo ac yn fuan bydd y preswylwyr yn dechrau symud i mewn i’w cartref newydd.

Gyda thros 100 o bobl yn ymweld â’r cartref arddangos ar y diwrnod agored cyntaf, cafwyd llawer iawn yn dangos diddordeb yn y datblygiad ac mae ymwelwyr yn parhau i wneud apwyntiadau i weld yr eiddo yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Mae llawer o’r rhai sy’n ymweld yn ystyried newid cartref ond maent yn awyddus hefyd i aros yn yr ardal a symud i gartref llai.

Mae cwmni datblygu lleol domus Cambria wedi arwain y datblygiad nodedig ac wedi penodi Cartrefi Lime Grove i weithio gyda SJ Roberts y contractwyr o’r Trallwng i wneud yr holl waith adeiladu.

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd Domus Cambria:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi cwblhau’r cynllun hwn mewn pryd ar gyfer cychwyn y Flwyddyn Newydd. Credwn fod Hafan Gogarth yn cynnig rhywbeth i’r bobl hynny sydd am symud i dŷ llai ond sy’n dal yn awyddus i aros yn lleol mewn lleoliad canolog ac o fewn amgylchedd diogel.”

“Mae’r datblygiad wedi denu llawer o ddiddordeb yn lleol ac er ein bod wedi sicrhau gwerthiant ar gyfer rhyw 25% o’r eiddo, rydym yn awr yn brysur yn dangos pobl o amgylch y datblygiad, gan gynnwys fflatiau unigol yn ogystal â mannau cymunedol. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu ag Anthony Flint ar 01492877418 a siarad gyda Samantha Roberts neu fel arall, cysylltwch â Clare Greenwood yn domus Cambria ar 01492 563280.”

Mae’r datblygiad yn cynnwys gerddi cymunedol helaeth gyda mannau parcio ac ardaloedd storio beic neu sgwteri symudedd. Gellir cael gwybodaeth bellach am y datblygiad yn www.domus-cambria.co.uk. Penodwyd Anthony Flint fel asiant rheoli. Gellir cysylltu ag ef yn www.anthonyflint.co.uk neu drwy ffonio 01492877418.

Y drysau’n agor i arddangos fflat mewn cynllun gofal ychwanegol arloesol yn Abergele

Mae’r drysau wedi cael eu hagor yn y fflat arddangos ar gynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc yn Abergele, gyda gwahoddiad i bobl leol sydd â diddordeb i alw heibio.

 

Y cynllun adeiladu Gofal Ychwanegol newydd gwerth £11 miliwn, yn Rhodfa Cinmel, fydd y cyntaf o’i fath i agor yn y dref. Mae Tai Gofal Ychwanegol yn rhoi dewis i bobl hŷn; gan gyfuno byw’n annibynnol gyda rhaglen gofal â chymorth y gellir ei haddasu wrth i’r anghenion a aseswyd newid

Gyda 49 o fflatiau un a dwy ystafell wely, mae’r fflat arddangos yn rhoi cyfle i brofi a chael blas ar sut y bydd y Cynllun yn edrych unwaith y caiff ei gwblhau ym mis Chwefror 2014. Bydd agor y fflat hefyd yn caniatáu i bobl gyfarfod â thîm Tai Gogledd Cymru, er mwyn darganfod mwy am y cynllun gofal ychwanegol yn Hafod y Parc.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae yna angen amlwg ledled Gogledd Cymru am dai gofal ychwanegol sy’n caniatáu i bobl hŷn gynnal ffordd o fyw’n annibynnol a rhoi tawelwch meddwl trwy gynnig dewis gofal â chymorth. Mae Tai Gofal Ychwanegol yn hwyluso’r angen yma ac rydym yn falch o ddatblygu cynlluniau tai sy’n benodol addas i ffyrdd o fyw yn y blynyddoedd hŷn.”

Mae’r cynllun newydd, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, o ddyluniad cyfoes mewn lleoliad llonydd a thawel, ac mae wedi cael ei ddatblygu i fod o ansawdd eithriadol o uchel gyda chyfleusterau modern drwyddi draw. Ar y safle, bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu gan y cwmni lleol profiadol gwasanaethau Gofal Cartref AKC.

Gan adeiladu ar lwyddiant ei gynllun Tai Gofal Ychwanegol cyntaf, sef Llys y Coed yn Llanfairfechan, mae Tai Gogledd Cymru wedi gallu ailadrodd elfennau allweddol yn Hafod y Parc.

Mae llawer eisoes wedi mynegi diddordeb yn y cynllun ond mae croeso o hyd i geisiadau.

Rhaid trefnu apwyntiad er mwyn cael gweld y Fflat Arddangos – cysylltwch â Tai Gogledd Cymru ar (01492) 572727 i wneud hynny.

Cartrefi newydd i bobl leol yn Wrecsam

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu 12 eiddo newydd yn Wrecsam, sy’n arwydd o dwf pellach ac ymroddiad gan y gymdeithas dai i adeiladu’n gynaliadwy.

Gan weithio’n agos â Chyngor Sir Wrecsam, bydd y cynllun newydd yn cael ei adeiladu yn ardal Whitegate yn y dref ar safle hen faes parcio. Ar hyn o bryd, y cynllun yw adeiladu cartrefi 2 ystafell wely er mwyn cyflenwi anghenion lleol. Bydd y tai hyn yn cael eu hadeiladu i safon Cod 3+ ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy, sef safon bresennol y Gymdeithas ar gyfer tai newydd.

Mae disgwyl i’r gwaith gychwyn ar y safle yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, a bydd tenantiaid yn cael eu dewis trwy gyfrwng rhestr aros y Cyngor ar gyfer tai.

Mae Tai Gogledd Cymru yn awr yn chwilio am bensaer ar gyfer y datblygiad ac yna byddant yn llunio cynlluniau manwl ar gyfer y safle. Bydd digwyddiad lleol yn cael ei gynnal hefyd yn Whitegate cyn i’r cynllun gychwyn ar y safle, fydd yn rhoi cyfle i breswylwyr a’r rhai sydd â diddordeb mewn ymgeisio i ddod i wybod mwy am y datblygiad newydd.

Y cynllun hwn fydd y cyntaf i Tai Gogledd Cymru ymwneud ag ef yn Wrecsam ac mae’n rhan o strategaeth ehangach fydd yn creu cartrefi newydd mewn ardaloedd allweddol ac yn taclo problem ehangach prinder tai.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae cynllun Wrecsam yn cynrychioli cyfle arbennig i weithio o fewn awdurdod lleol newydd a byw yn ôl ein henw ‘Tai Gogledd Cymru’!”

“Bydd y datblygiad hwn nid yn unig yn helpu i daclo’r diffyg tai ar gyfer pobl leol o fewn Wrecsam ond hefyd yn cefnogi tenantiaid y dyfodol gan leihau eu biliau egni trwy adeiladu yn ôl cynllun cynaliadwy a rhad ar ynni.”