Cadeirydd Tai Gogledd Cymru yn cipio gwobr cyflawniad oes

Mae Tom Murtha, Cadeirydd Tai Gogledd Cymru, wedi cipio gwobr am gyflawniad oes yng Ngwobrau Amrywiaeth diweddar cylchgrawn 24Housing.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo nodedig yng Nghlwb Pêl Droed Aston Villa, Birmingham ar y 10fed o Fai – mynychodd Tom y digwyddiad gyda Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru.

Wrth ennill y wobr dywedodd Tom:

“Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo’n fachg iawn o fod wedi ennill y wobr; roedd yn anrhydedd go iawn i gyrraedd y rhestr fer. Rwy’n gwybod o’m gwaith yn y sector dros sawl blwyddyn bod llawer o enillwyr teilwng yn y categori hwn. Roedd yn wych cael dathlu beth mae fy nghydweithwyr wedi’i gyflawni ar draws y sector tai mewn maes sy’n agos iawn at fy nghalon.”

Ychwanegodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae hyn yn llwyddiant gwych ac rydym am longyfarch Tom yn fawr ar ennill y wobr. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r gwaith yma iddo, felly mae’n hollol addas ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn. Rydym hefyd yn falch iawn ei fod yn cynrychioli Tai Gogledd Cymru yn y digwyddiad pwysig hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef fel y gall barhau â’i waith da ar leihau anghydraddoldeb yn y maes tai.”

Dywedodd panel y beirniaid am waith Tom,:”Mae ganddo restr faith o gyflawniadau ar faterion amrywiaeth a chydraddoldeb. Mae Tom yn gosod esiampl gwirioneddol.”

Treuliodd Tom ei yrfa gyfan – ers pan oedd yn fyfyriwr hyd at adeg ymddeol, yn gweithio dros hawliau a chydraddoldeb i grwpiau lleiafrifol yn y sector tai.

Mae wedi cyflawni llawer, o’i rôl gyda Grŵp Hil a Thai’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol hyd at ei aelodaeth o Gomisiwn Hil a Thai’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Cyn ymuno efo Tai Gogledd Cymru roedd yn brif weithredwr ar un o brif ddarparwyr tai cymdeithasol y Deyrnas Unedig.

Mae Tom yn parhau i ymgyrchu ar y diffyg cynnydd yn y sector tai ar faterion hil – ac ar hyn o bryd mae’n ceisio sefydlu ffordd newydd o weithredu tuag at hil ac amrywiaeth yng Nghymru.

Rhestr fer i gadeirydd cymdeithas dai am waith ym maes cydraddoldeb

Wedi treulio gyrfa gyfan yn ymgyrchu dros gydraddoldeb ac amrywiaeth, Mae Tom Murtha cadeirydd Tai Gogledd Cymru wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau amrywiaeth blynyddol cylchgrawn 24Housing.
 
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn stadiwm Clwb Pêl-droed Aston Villa, Birmingham ar y 10fed o Fai.
Mae Tom wedi treulio ei holl yrfa – o’i gyfnod fel myfyriwr hyd nes ei ymddeoliad yn gweithio dros hawliau a chydraddoldeb grwpiau lleiafrifol o fewn y sector tai.
 
Mae ei lwyddiannau niferus yn cynnwys ei rôl ar Grŵp Cydraddoldeb y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a’i waith gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar eu Comisiwn Tai. Cyn ymuno â Thai Gogledd Cymru roedd yn Brif Weithredwr gydag un o gymdeithasau tai mwyaf y DU ac roedd yn gyfrifol am benodi un o’r prif weithredwyr du cyntaf i gymdeithas dai.
 
Ar gyrraedd y rhestr fer a churo cystadleuaeth o bob cwr o’r DU, dywedodd Tom: “Mae hyn yn fraint, ac rwy’n ymwybodol iawn o fy ngwaith yn y sector bod nifer o enillwyr posib haeddiannol i’r wobr hon. Beth bynnag fydd y canlyniad ar y noson rwy’n falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer, ac rwy’n edrych ymlaen at gael dathlu llwyddiannau cydweithiwr ar draws y sector dai mewn maes sydd mor agos at fy nghalon.”
 
Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, “Hoffwn longyfarch Tom ar ei lwyddiant, rydym yn falch y bydd yn cynrychioli Tai Gogledd Cymru yn y digwyddiad pwysig hwn ym mis Mai. Rydym yn dymuno pob lwc iddo fo a phawb arall sydd ar y rhestr fer – maen nhw i gyd wedi dangos ymroddiad anhygoel i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector. Wrth i ni edrych i’r dyfodol rydym yn awyddus i gydweithio gyda Tom yn ei rôl fel ein cadeirydd er mwyn iddo allu parhau gyda’i waith pwysig yn y maes hwn, ac yn benodol felly yng Nghymru.”
 
Mae Tom yn parhau i ymgyrchu ar y diffyg cynnydd yn y sector tai o ran amrywiaeth hil – ac mae’n awyddus i sefydlu ffordd newydd o weithio er mwyn mynd i’r afael ar y mater yng Nghymru.

Cynnig Bysiau Arriva i denantiaid

Beth am adael y car gartref i helpu cadw Cymru’n wyrdd?

Beth yw’r cynnig?

  • Cynnig newydd ar docynnau bws trwy Arriva – tocynnau dydd ac wythnosol hyblyg
  • Beth yw tocyn hyblyg? – mae’r rhain yn docynnau dydd wedi’u llwytho ymlaen llaw a’u defnyddio am 6 mis ar ôl i chi eu prynu
  • Prynwch y tocyn ar-lein – bydd cerdyn ‘Smart’ yn cael ei anfon atoch wedyn
  • Gallwch ychwanegu credyd at y tocynnau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfrif Arriva
  • Cofiwch gallwch ddefnyddio’r tocynnau ar gyfer UNRHYW siwrne

Pam ddylwn i brynu’r rhain yn hytrach na thocynnau bws arferol?

  • Nid oes angen i chi boeni am gael arian wrth fynd ar y bws
  • Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer teithio yng Nghymru a gogledd orllewin Lloegr

Am fwy o wybodaeth ewch i www.arrivabus.co.uk/nwh

Diolch yn fawr gan dîm digartrefedd Bangor

Mae tîm helpu’r digartref ym Mangor wedi cael llu o roddion dros y Nadolig ac maen nhw’n awyddus iawn i ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi eu hapêl ddiweddar.

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) yn rhedeg dwy hostel ym Mangor, sef Hostel y Santes Fair a Pendinas. Maen nhw yn dibynnu ar roddion ar hyd y flwyddyn, ond mae misoedd oer y gaeaf bob amser yn fwy o her – gyda mwy o angen am loches, sachau cysgu a dillad cynnes. Mae’r ddau leoliad bob amser yn llawn, gyda staff Santes Fair hefyd yn cefnogi rhai sy’n cysgu ar y stryd trwy ddarparu prydau bwyd cyson a phethau hanfodol eraill fel pebyll a blancedi.

Mae’r tîm yn CTGC yn awyddus i ddiolch i Grŵp Hogan yn arbennig am gyfrannu pebyll a llochesi newydd yn ddiweddar.

Mae Barbara Fitzsimmons yn un o staff CTGC sy’n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yn Santes Fair, ac meddai: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl roddion rydym wedi eu derbyn eleni. Mae pobl wedi ymateb i’n hapêl ac wedi mynd allan o’u ffordd i ddod â’r pethau sydd eu gwir angen arnom i helpu pobl ddigartref yr ardal.

“Rydym yn ddiolchgar i Hogan yn arbennig am y pebyll y maen nhw wedi’u roi. Rydym yn dibynnu ar roddion fel hyn er mwyn rhoi cysgod i’r rhai sy’n byw ar ein strydoedd rhag y tywydd oer a gwlyb.”

Dywedodd Kevin Hogan, Cyfarwyddwr y cwmni adeiladu o Fangor: “Rhan o’n hethos ni yw rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned lle rydym yn byw ac yn gweithio ynddi – rydym yn benderfynol o wneud hyn ym mhob agwedd o’n gwaith. Rydym wedi cael cyswllt gyda Hostel Santes Fair ers blynyddoedd ac roeddem yn awyddus i barhau â’r berthynas hon trwy gyfrannu’r pebyll pwysig yma eto eleni. Rwy’n gobeithio y byddant yn rhywfaint o help i’r rhai sydd heb loches yn ardal Bangor y gaeaf hwn.”

Mae Hosteli Pendinas a Santes Fair yn dibynnu ar roddion a dylai unrhyw un sydd eisiau cynnig cyfranu alw heibio Hostel y Santes Fair, Ffordd Cariadon, Bangor neu ffoniwch 01248 36221.

Cyhoeddiadau Cwsmer

Rydym yn gweithredu system newydd o ran trefnu cynnal a chadw yn ystod yr wythnosau nesaf. Efallai y bydd ychydig o oedi gyda delio â galwadau cwsmeriaid – gofynwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar.

 

 

FyTGC

Oherwydd cynnal a chadw angenrheidiol ni fydd FyTGC ar gael rhwng 4 o’r gloch dydd Gwener 6ed o Ionawr tan ddydd Llun 8fed o Ionawr.  Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.