Codi £370 tuag at elusen Macmillan

Yn ddiweddar, cynhaliwyd Bore Coffi Macmillan gan breswylwyr a staff cynllun tai gwarchod Tai Gogledd Cymru yn Taverners Court, Llandudno a llwyddwyd i godi £370 diolch i haelioni’r preswylwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar ddechrau mis Hydref ac yn ogystal â’r holl gacennau a’r dantiethion penderfynwyd i roi thema’r 1960au i’r digwyddiad. Mi aeth pawb i ysbryd y diwrnod – gan ddod draw mewn gwisg ffansi, yn ogystal â chymryd rhan mewn cwis a dawnsio i rai o glasuron pop y 1960au. Ar ben hynny mi wnaeth raffl, arwerthiant bric a brac a gwerthu cacennau cartref gyfrannu at y cyfanswm a godwyd.

Da iawn pawb!

Dewis Jamie ar gyfer Cwpan y Byd i’r Digartref

Yn ddiweddar, dewiswyd un o gyn-breswylwyr Hostel Noddfa Tai Gogledd Cymru i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth nodedig Cwpan y Byd i’r Digartref.

Cyfeiriwyd Jamie Collins at Tai Gogledd Cymru rhyw 3 blynedd yn ôl, ac fe dreuliodd beth amser yn Noddfa – mae wedi sicrhau llety parhaol yn ddiweddar. Yn ystod ei amser yn yr hostel, mynychodd Jamie gystadleuaeth Pêl-droed Stryd Cymru ar gyfer gogledd Cymru a bu’n gapten ar dîm Noddfa gan eu harwain at sawl buddugoliaeth, ac ennill nifer o dlysau dros y 3 blynedd diwethaf.

Bob blwyddyn mae Pêl-droed Stryd Cymru (SFW) yn mynychu Cwpan y Byd i’r Digartref. Mae dros 70 o dimau o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd mewn gwahanol leoliadau ar draws y byd i gymryd rhan yn y twrnament. Eleni mae’n cael ei gynnal yn Ninas Mecsico ym mis Tachwedd.

Mynychodd dewiswyr SFW ddiwrnod olaf tymor y Gogledd er mwyn edrych ar chwaraewyr yr ardal ac i chwilio am unigolion i fynychu treialon Cymru. Gwnaeth Jamie gryn argraff oherwydd ei sgiliau arwain, ei benderfyniad, ei agwedd a’i angerdd, yn ogystal â’i sgiliau pêl-droed gwych – arweiniodd at gael ei ddewis i fynychu’r treialon cenedlaethol yng Nghasnewydd. Llwyddodd Jamie i wneud ei farc ac felly cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd eleni.

Bydd cymryd rhan yn golygu llawer o waith caled iddo. Nid yw erioed wedi bod dramor o’r blaen a bydd rhaid iddo deithio i dde Cymru o leiaf unwaith yr wythnos ar gyfer sesiynau hyfforddi, lluniau tîm, gwaith elusennol ac i gyfarfod â’r wasg.

m amheuaeth bod hwn yn gyfle unwaith mewn oes – mae’n anhygoel. Dydw i erioed wedi bod dramor o’r blaen felly bydd mynd i Mecsico yn brofiad newydd go iawn. Rwy’n caru pêl-droed ac rwyf mor falch y byddaf yn cynrychioli fy ngwlad yn y gystadleuaeth wych hon.”

Pwrpas Cwpan y Byd i’r Digartref yw defnyddio pêl-droed i helpu pobl sy’n ddigartref i geisio newid eu bywydau. Mae pobl sy’n ddigartref yn aml yn cael eu hynysu, felly mae’r digwyddiad yn gyfle gwych iddynt gymdeithasu a bod yn rhan o dîm a dysgu ymddiried mewn eraill – sgiliau a all fod o gymorth mawr iddynt yn y tymor hir wrth iddynt symud i gartref sefydlog.

Bob blwyddyn mae Sefydliad Cwpan y Byd i’r Digartref yn cynnal twrnament pêl-droed stryd dros gyfnod o wythnos. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf erioed yn Gaza, Awstria yn 2003. Ers hynny mae’r gystadleuaeth wedi bod i bymtheg o ddinasoedd gwahanol ar draws y byd. Bob blwyddyn mae’r gystadleuaeth yn denu cynulleidfa o dros 80,000 gyda thros 500 o chwaraewyr yn cymryd rhan, yn cynrychioli 47 o wledydd gwahanol.

Bywyd newydd i gae chwarae yn Llandudno

Mae maes chwarae ‘naturiol’ newydd sbon wedi cael ei ddatblygu ar stad Tre Cwm fydd yn annog plant lleol i fod yn greadigol ac i ddefnyddio mwy ar eu dychymyg.

Mae cymdeithasau tai lleol, Tai Gogledd Cymru a Chartrefi Conwy wedi dod at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth i ail ddatblygu’r safle ac i greu ardal chwarae newydd gan ddisodli’r hen offer.

Mae Brett Sadler, yn Gyfarwyddwr Cymunedau Cynorthwyol gyda Tai Gogledd Cymru, dywedodd:

Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno, ac mae Tai Gogledd Cymru yn falch o fod wedi gallu ymuno gyda Chartrefi Conwy i droi hwn yn realiti. ‘Doedd yr hen gae chwarae prin yn cael ei ddefnyddio – felly’r gobaith yw y bydd y maes newydd yn galluogi plant y stad i ddod at ei gilydd i fod yn greadigol wrthi iddynt fwynhau chwarae yno.”

Mae’r maes chwarae yn Nhre Cwm yn cynnwys tirlunio naturiol, llwybr troed pren, llwybr synhwyraidd a ‘mynydd’ boncyffion. Mae’r holl ardal wedi ei gynllunio i annog plant i chwarae yn yr awyr agored ac i ddefnyddio mwy ar eu dychymyg na chaeau chwarae traddodiadol.

Mae meysydd chwarae naturiol yn dod yn fwy a mwy poblogaidd wrth iddynt gyfuno gwahanol elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r ardal o’u cwmpas. Mae adnoddau naturiol fel coed a cherrig yn cael eu defnyddio i wella sut mae meysydd chwarae yn edrych, ond hefyd i roi mwy o gyfle i blant ddefnyddio eu dychymyg.

Gwobrwyo’r gerddi gorau

Gallwn gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth arddio Tai Gogledd Cymru ar gyfer 2018…

Yr ardd orau

1af Sue Jeffrey, Cae Mawr, Llandudno

2ail Ruth a Colin Donnelly, Woodlands, Cyffordd Llandudno

Gardd wedi gwella mwyaf

Cydradd 1af Maureen Evans, Cae Bach, Tal y Bont

Cydradd 1af Preswylwyr Monte Bre – Andrew Nicholls, Berwyn Thomas, Brian Edwards, Sarah Bagley a Michaela Owens

2ail Douglas Weatherby, Cae Mawr, Llandudno

Gardd fechan orau (potiau, basgedi, bocs ffenestr ac ati)

1af Margaret Roberts, Hafod y Parc, Abergele

2ail Pwyllgor patio Llys y Coed, Llanfairfechan

3ydd Robbie Carr, Llain Cytir, Caergybi

Ardal/ gardd cymunedol orau

1af Preswylwyr St Marty’s Hostel

2ail Lynne Pierce a Glyn Pritchard, preswylwyr Uxbridge Court, Bangor

3ydd Nerys Prosser a Pat Connor, preswylwyr Llain Deri, Bae Colwyn

Iwan Evans, yw Cydlynydd Cyswllt Tenantiaid Tai Gogledd Cymru, fo hefyd yw trefnydd y gystadleuaeth, dywedodd

Roedd y safon yn hynod uchel eto eleni, yn enwedig o ystyried y tywydd sych a gawsom ddechrau’r haf. Hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan.”

Bydd y gystadleuaeth yn ôl eto’r flwyddyn nesaf – felly digon o amser i gynllunio ymlaen!

Gofal ychwanewgol yn mynd gam yn ychwanegol

Dros nifer o flynyddoedd rydym wedi buddsoddi yn ein gwasanaethau i bobl hŷn gyda thri chynllun gofal ychwanegol wedi agor ers 2013. Mae adborth yn gyson gadarnhaol gan breswylwyr ac mae’r cynlluniau bron i 100% yn llawn.

Dyma gymryd golwg ar y gwaith sy’n cael ei wneud yng nghynllun gofal ychwanwegol Cae Garendd ym Mangor yn er mwyn gwella iechyd ac ansawdd bywyd trigolion.

Pontio’r cenedlaethau

Wedi llwyddiant cyfres deledu S4C ‘Hen blant Bach’ mae Tai Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, Ysgol y Garnedd, Penrhosgarnedd a Dr Catrin Hedd o Brifysgol Bangor i sefydlu prosiect i gysylltu’r cenedlaethau.

Cafodd y prosiect ei ariannu drwy’r Gronfa Gofal Integredig Cyngor Gwynedd – ac mae wedi rhoi cyfle i ddisgyblion 5 a 6 mlwydd oed fynychu gweithgareddau yn y cynllun tai gofal ychwanegol Cae Garnedd. Mae gweithgareddau yn cael eu trefnu ar gyfer yr ymweliadau gyda sesiynau ar themâu cerddorol, celf a chrefft, garddio, gemau, a sgyrsiau gan y gwasanaeth archifdy.

Mae’r adborth gan y tenantiaid a’r ysgol wedi bod yn wych ac mae’r budd i les tenantiaid wedi bod yn amlwg. Mae sawl tenant, er eu problemau iechyd neu anableddau wedi ffynnu – maen nhw yn dod yn fyw yn ystod y gweithgareddau a’r cymdeithasu gyda’r plant, sy’n gweld heibio’r gwahaniaeth oedran, yr anableddau a’r stigma. Yn ôl adroddiadau gan yr ysgol mae’r plant yn mwynhau cymaint nes eu bod wedi gwrthod gadael y bws ar un achlysur ar ôl cyrraedd yn ôl i’r ysgol am eu bod eisiau dychwelyd at eu ffrindiau yng Nghae Garnedd.

Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cael ei werthuso gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gyda chais pellach wedi ei wneud am arian cymdeithasol Ewropeaidd gyda chymorth Dr Catrin Hedd a Phrifysgol Bangor. Mae peilot tebyg wedi’i gynnal yn ardal Nefyn rhwng yr ysgol gynradd yno a chartref henoed er mwyn cymharu ardal wledig a threfol. Yn dilyn gwerthusiad, y nod yw datblygu’r prosiect ar gyfer yr hir dymor fel y gall mwy o denantiaid hŷn fwynhau a chael budd o sesiynau gyda phlant ysgolion cynradd.

Digwyddiad Arbennig i Nodi Canmlwyddiant yr RAF ym Mangor dydd Sadwrn, 8 Medi 2018

Digwyddiad Arbennig i Nodi Canmlwyddiant yr RAF ym Mangor dydd Sadwrn, 8 Medi 2018

Fel rhan o raglen o ddigwyddiadau yng Nghymru i gofio a dathlu Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol, bydd dinas Bangor yn cynnal gorymdaith fawr a hedfan drosodd i’r Llu Awyr ddydd Sadwrn 8 Medi. Bydd hwn yn un o ddigwyddiadau olaf y Canmlwyddiant a’i fwriad yw cydnabod y cysylltiadau cryf sydd wedi bod rhwng Gogledd Cymru a’r RAF dros y can mlynedd yna.

I Fangor, mae’r cysylltiadau hyn yn mynd yn ôl reit i ddechrau’r RAF, pan ddaeth “RAF Bangor” yn weithredol yn 1918, gyda Sgwadron rhif 244 yn hedfan awyrennau Airco DH6 o Abergwyngregyn, yn cynnal patrolau gwrth longau tanfor ym Môr Iwerddon. Er i RAF Bangor gau yn fuan wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae hwn yn dal i fod yn gysylltiad unigryw ac arbennig i ddinas Bangor ei gofio wrth i’r RAF ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2018. A heddiw, mae’r cysylltiadau cryf rhwng Bangor a’r RAF yn parhau, gyda RAF Fali wedi cael Rhyddid y Ddinas ers 23 Mawrth 1974.

Ddydd Sadwrn 8 Medi, bydd dathliadau Canmlwyddiant yr RAF yn dod i Fangor, gyda staff RAF Fali, fel Rhyddfreinwyr Dinas Bangor, yn gorymdeithio drwy strydoedd y ddinas. Yn ymuno â nhw bydd Band Canolog yr Awyrlu, ynghyd â nifer o Gadetiaid Awyr o sgwadronau ar draws Gogledd Cymru.

Bydd y bore’n dechrau gyda Gwasanaeth Arbennig i ddathlu’r Canmlwyddiant yn y Gadeirlan, am 0945 am, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd fod yn bresennol. Am 11.15am, bydd yr orymdaith yn dangos arfau wrth y Gofeb Ryfel, pryd bydd awyrennau Hawk o RAF Fali yn hedfan drosodd. Yna byddant yn cael eu croesawu gan Ei Deilyngdod Maer Bangor, Arglwyddi Rhaglaw Gwynedd a Chlwyd ynghyd â gwesteion anrhydeddus o bob cwr o Ogledd Cymru. Prif swyddog yr RAf yn yr orymdaith fydd Marsial yr Awyrlu Michael Wigston, a gafodd ei fagu ym Mangor ac a fu’n ddisgybl yn Ysgol Friars.

Am tua 11.40am bydd yr Orymdaith yn camu oddi ar y Gofeb Ryfel i arfer y Rhyddid, gan orymdeithio heibio’r Gadeirlan a throi i’r chwith i lawr Stryd Fawr y Ddinas. Wrth y Cloc bydd y Maer, yr Arglwyddi Rhaglaw a Marsial Wigston yn cydnabod y saliwt. Yna bydd yr Orymdaith yn mynd ymlaen i lawr y Stryd Fawr i Stryd y Deon, ac yna’n camu allan tua 12.00pm.

Dywedodd Maer Bangor, y Cynghorydd John Wynn Jones “Mae gan Fangor a sawl ardal arall dros Ogledd Cymru gysylltiadau cryf â’r Awyrlu dros nifer o flynyddoedd ac mae’n fraint i Fangor gael croesawu’r digwyddiad pwysig hwn i nodi Canmlwyddiant yr RAF. Gyda’r Awyrlu’n gorymdeithio drwy strydoedd Bangor mae’n rhoi cyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad o’r teyrnarwch, yr ymroddiad a’r gwasanaeth ardderchog a roddodd yr RAF dros y can mlynedd diwethaf, ar nifer o lu’r RAf a gollodd eu bywydau yn ystod y cyfnod hwn. Bydd cael awyrennau Hawk o RAF Fali yn hedfan a’r Orymdaith drawiadol a lliwgar, yn achlysur cofiadwy ac yn werth eu gweld. Dylai pawb o Fangor a’r cyffiniau wneud ymdrech i ddod i fod yn rhan o’r dathliad.”

Diddymu’r Hawl i Gaffael

Bydd yr Hawl i Gaffael eu cartrefi i denantiaid Cymdeithasau Tai yn dod i ben ar 26 Ionawr 2018.

Ar 24 Ionawr  2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil o Ddiddymu Hawl i Gaffael mewn dull  graddedig: yn gyntaf, drwy gyfyngu ar hawliau tenantiaid i brynu unrhyw dai sy’n newydd i’r cyflenwad tai cymdeithasol (daeth i rym ar 24 Mawrth 2018) ac ar 26 Ionawr 2019 yn diddymu’r hawliau hynny ar gyfer pob cyflenwad perthnasol yn llwyr.

Os ydych yn denant i Tai Gogledd Cymru efallai y byddwch yn gallu prynu eich cartref am ddisgownt o dan Gynllun Hawl i Gaffael. Gallai prynu eich cartref ddarparu buddsoddiad ar gyfer y dyfodol.   Mae’n debygol o fod yn un o’r penderfyniadau ariannol mwyaf y byddwch yn ei wneud,  felly dylech geisio cyngor ariannol a chyfreithiol diduedd ymlaen llaw.

Er mwyn bod yn gymwys am Hawl i Gaffael bydd rhaid eich bod:

  1. Yn byw mewn eiddo Tai Gogledd Cymru cymwys
  2. Gyda thenantiaeth Sicr neu Aswiriedig
  3. Yn denant sector cyhoeddus am o leiaf 2 flynedd os oedd y tenatiaeth cyn Ionawr 2005 a 5 mlynedd os oedd y tenantiaeth ar ôl Ionawr 2005.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar eu gwefan yn rhoi gwybodaeth i helpu egluro’r hyn mae tenantiaid angen ei wybod am ddiwedd yr Hawl i Gaffael,  a be i’w wneud petaent yn ystyried gwneud  cais i brynu eu cartref.

Ni fydd Tai Gogledd Cymru yn gallu ystyried unrhyw geisiadau Hawl i Gaffael ar ôl 25 Ionawr 2019.

Am ragor o wybodaeth  am eich Hawl i Gaffael cysylltwch â [email protected]  neu 01492 572727.

Prynhawn i godi arian wrth fwynhau Paned a Chacen yn Y Gorlan

Prynhawn i godi arian wrth fwynhau Paned a Chacen yn Y Gorlan, Stryd Fawr, Bangor i ddathlu pen-blwydd yr RVS yn 80 oed

Dydd Iau 12 Gorffennaf 2yp – 4yp

Mynediad am ddim a chroesewir rhoddion

Bydd paned, cacennau cartref, raffl a thombola ar y diwrnod, felly croeso cynnes i bawb ymuno â ni .

Gwneud safiad i daclo trais yn y cartref

Mae Tai Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch ‘Make a Stand’ CIH (Chartered Institute of Housing) i daclo trais yn y cartref. Fel rhan o hyn rydym yn cytuno i gymryd 4 cam er mwyn ceisio gwneud gwahaniaeth go iawn.
1. Rhoi polisi mewn lle ar drais yn y cartref ar gyfer ein preswylwyr
2. Sicrhau bod polisi ar drais yn y cartref ar gyfer staff
3. Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am wasanaethau lleol ar ein gwefan (isod)
4. Byddwn yn penodi uwch reolwr i arwain ar y mater yn Tai Gogledd Cymru

Angen cefnogaeth?
Cymru gyfan 0808 80 10 800
www.welshwomensaid.org.uk
Dyma restr o wasanaethau lleol:

Sir Conwy

  • Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy
    Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy, Heulwen/Glyn y Marl Rd, Cyffrodd Llandudno LL31 9NS
    01492 872992
    Llinell Gymorth 24awr
    01492 872992
    Galw i fewn a swyddfa gwybodaeth Dydd Llun-Dydd Gwener oriau swyddfa
    01492 872992
    Lloches a allgymorth 24awr
    [email protected]

 

Sir Ddinbych

  • Cymorth i Ferched Glyndwr
    12-14 Sgwar y Neuadd, Dinbych LL16 3NU
    01745 814494
    Llinell Gymorth 24awr
    [email protected]

 

  • Gwasanaerth Trais yn y Cartref Gogledd Sir Ddinbych
    10 Ffordd Brighton, Rhyl LL18 3HB
    01745 337104
    Lloches, cefnogaeth symudol, allgymorth a galw i fewn: 24awr
    01745 337104
    Siop un stop/llinell gwybodaeth a cyngor: 24 awr
    [email protected]

Sir y Fflint

  • Cymorth i Ferched CAHA
    PO Box 1103, Treffynnon CH8 7WJ
    01352 712150
    Allgymorth, cwnsella a galw i fewn: 8:30-4.30
    [email protected]

 

  • Uned Diolgelwch Trais Teuluol (Glannau Dyfrdwy)
    The Courtyard Deeside Enterprise Centre, Rowley’s Dr, Shotton, Glannau Dyfrdwy CH5 1PP
    01244 830436
    Lloches 24awr
    01244 830436
    Cefnogaeth symudol a galw i fewn Dydd Llun-Dydd Gwener 9-4
    [email protected]
    http://www.domesticabusesafetyunit.net

Gwynedd

 

  • Cymorth i Ferched Bangor
    Bangor and District Women’s Aid, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor LL57 4BN
    01248 679077
    Cefnogaeth symudol Dydd Llun-Dydd Gwnener 9-5
    01248 679052
    Lloches a canolfan galw i fewn 24awr
    [email protected]

Ynys Môn

  • Gorwel: Anglesey Gwasanaeth cam-drin domestig
    Gorwel, 12 Ffordd Yr Efail, Llangefni, Ynys Môn LL77 7ER
    01248 750903
    Lloches, cefnogaeth symudol, galw i fewn, IDVA, llinell gymorth: 24awr
    [email protected]

Sir Wrecsam

 

  • Hafan Cymru – Wrecsam
    Hafan Cymru, High St, Wrecsam LL14 6AA
    01978 823 077
    [email protected]
    http://www.hafancymru.co.uk
    Bawso – Wrecsam (gwasanaeth arbenigol ar gyfer y gymuned BME)
    33 Ffordd Grosvenor, Wrecsam LL11 1BT
    0800 731 8147
    Llinell Gymorth: 24awr
    01978 355818
    Canolfan cyngor Wrecsam: Dydd Llun-Dydd Gwener 9:30-4:30
    http://www.bawso.org.uk