Cyfathrebu â ni

Mae ein swyddfa yng Nghyffordd Llandudno bellach ar gau. Rydym yn dal i ymateb i bob ymholiad mewn e-bost, dros y ffôn neu drwy Facebook. Mae cysylltu â ni dros y ffôn ac mewn e-bost yn golygu y gallwn ymateb i chi yn gyflymach.

Efallai y bydd ymateb i gyfathrebu ysgrifenedig trwy’r gwasanaeth post yn cymryd mwy o amser i ni oherwydd bod y swyddfa ar gau. Rydym yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth ac yn lleihau unrhyw deithio diangen cymaint â phosibl.

Diolch i chi am fod mor ystyriol yn y cyfnod heriol hwn.

Galwadau lles tenantiaid

Mae lles ein tenantiaid yn hynod bwysig i ni. O Dydd Iau 26 o Fawrth byddwn yn cysylltu â phob tenant i weld sut ydych  ac i helpu gyda’ch pryderon, gan ddechrau gyda’r rhai mwyaf agored i niwed.

Byddwn yn gofyn i chi:

  • Ydych chi’n iawn? Oes angen help arnoch chi i siopa neu gasglu presgripsiynau?
  • A oes gennych unrhyw anghenion neu bryderon eraill y gallem helpu efo nhw?
  • Gwneud yn siŵr bod gennym y manylion cyswllt a’r wybodaeth gywir / gyfredol ar eich cyfer ar ein system

Os oes angen unrhyw help arnoch yn y cyfamser gallwch gysylltu â ni ar 01492 572727 neu [email protected]

Newid yn ein gwasanaethau trwsio oherwydd Coronafeirws

Oherwydd yr achosion o coronafeirws byddwn ond yn gwneud gwaith brys a gwasanaethu nwy blynyddol ar hyn o bryd. Mae’n ddrwg gennym am yr aflonyddwch hwn yn ein gwasanaeth arferol; rydym wedi cymryd y penderfyniad yma er mwyn eich amddiffyn chi, ein cydweithwyr a’r gymuned ehangach rhag y risg o ledaenu’r Coronafeirws.

Mae eich diogelwch chi a diogelwch ein cydweithwyr o’r pwys mwyaf i ni. Hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd mesurau priodol i’ch cadw chi a’n cydweithwyr yn ddiogel yn ystod yr ymweliadau yma.

Beth yw gwaith trwsio brys?

  • Colli pŵer yn llwyr
  • Goleuadau cymunedol ddim yn gweithio
  • Eiddo sydd ddim yn ddiogel
  • Dim dŵr poeth
  • Toiled neu ddraen wedi blocio
  • Dim gwres
  • Larwm tân ddim yn gweithio
  • Materion ynghylch adeilad yr eiddo sy’n peri pryder diogelwch
  • Dŵr yn gollwng yn ddireolaeth
  • Y system drws mynediad ddim yn gweithio

Bydd y gwaith trwsio yma yn eich cadw’n ddiogel yn eich cartref yn ystod argyfwng.

Mae’n ddrwg gennym na allwn mynychu gwaith trwsio heblaw mewn achos o argyfwng.

Ond os gwelwch yn dda cysylltwch â ni efo’r atgyweirion er mwyn i ni roi’r gwaith yn yr amserlen pan fyddwn yn gallu. Rydym yn deall bod hyn yn anghyfleus. Fodd bynnag, rydym yn dilyn cyngor y Llywodraeth i leihau cyswllt er mwyn leihau lledaeniad y feirws a dargyfeirio’r holl adnoddau sydd ar gael i wiriadau nwy a thrydan blynyddol a gwaith trwsio brys, pan fydd pobl ei angen fwyaf.

Os oes gennych waith trwsio sydd ddim yn waith argyfwng wedi’i drefnu yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cysylltu â chi i ganslo’r trefniant ac aildrefnu apwyntiad ar adeg sy’n addas i chi.

Byddwn yn ailddechrau ein gwasanaeth trwsio arferol cyn gynted ag y gallwn. Cadwch lygad ar ein gwefan www.nwha.org.uk  neu Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf.

Rydym yma i’ch cefnogi chi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Cysylltwch â ni ar 01492 572727 neu anfonwch e-bost at [email protected].

Cymorth a Hawliau Ariannol Coronavirus

Mae’r pandemig coronafirws yn amser pryderus; yn ogystal â phoeni am ein hiechyd rydym yn deall y gallech fod yn poeni am eich lles ariannol.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, wedi colli’ch swydd oherwydd y Coronafirws neu’n meddwl tybed a oes gennych hawl i dâl salwch statudol, gallai’r ddolen ganlynol fod yn ddefnyddiol:

Gwefan Moneysavingexpert www.moneysavingexpert.com/news/2020/03/uk-coronavirus-help-and-your-rights/

Gallwch hefyd ddarganfod mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar wefan y Llywodraeth yma www.gov.uk/self-employment-and-universal-credit

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y byddan nhw’n talu cyflogau gweithwyr hyd at 80% o’u cyflog hyd at uchafswm o £2500. Nid yw’r manylion wedi’u cwblhau eto; byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth pan fydd ar gael.

Cymorth meter trydan a nwy

Methu mynd allan i ychwanegu pres ar eich meter trydan neu nwy? Cysylltwch â’ch cyflenwr i gael dulliau amgen. Efallai y gallwch ychwanegu at Ap, ar-lein neu efallai bostio cerdyn atodol i chi.

Cysylltwch â’r Tîm Rhenti ar 01492 572727 os oes gennych newid yn eich cyllid sy’n ei gwneud hi’n anodd talu’ch rhent. Gallwch gysylltu â’r Tîm Rhenti ar [email protected] neu ffonio 01492 572727.

Swyddfeydd ar gau i ymwelwyr

Oherwydd canllawiau Coronafeirws diweddar y llywodraeth, byddem yn cau ein holl swyddfeydd a chynlluniau i’r cyhoedd hyd nes y clywir yn wahanol.

Gallwch gysylltu â ni ar:

Ffôn: 01492 572727

Ebost: [email protected]

Taliadau rhent

Gallwch dalu eich rhent ar-lein trwy ddefnyddio gwefan Allpay www.allpayments.net neu drwy’r ap ffon symudol.

Diweddariadau

Ewch i’n www.nwha.org.uk neu ein tudalen Facebook neu Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwybodaeth Coronavirus

Salwch newydd yw COVID-19 a allai effeithio eich ysgyfaint a llwybr anadlu. Mae’n cael ei effeithio gan firws o’r enw coronafirws, a’r straen diweddaraf yw coronafirws novel.

Mae Tai Gogledd Cymru yn rhoi mesurau mewn lle i ddiogelu ein tenantiaid, staff a’r cyhoedd.

Symptomau o coronafirws

Y symptomau o coronafirws yw:

  • tagiad
  • tymheredd uchel
  • prinder anadl

Ond nid yw’r symptomau hyn o reidrwydd yn golygu bod y salwch arnoch chi.

Mae’r symptomau’n debyg i afiechydon eraill sy’n llawer mwy cyffredin, fel annwyd a’r ffliw. Yn gyffredinol, gall coronafirws achosi symptomau mwy difrifol mewn pobl â systemau imiwnedd gwan, pobl hŷn, a’r rheini â chyflyrau tymor hir fel diabetes, canser a chlefyd cronig yr ysgyfaint.

Cyngor

Gallwch leihau’r risg o ddal/lledaenu coronafirws wrth:

  • golchi’ch dwylo â sebon a dŵr yn aml – gwnewch hyn am o leiaf 20 eiliad
  • golchwch eich dwylo bob amser pan gyrhaeddwch adref neu i waith
  • defnyddio gel glanweithydd dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael
  • gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn gyda hances bapur neu’ch llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch chi’n tagu neu disian
  • rhowch feinweoedd wedi’u defnyddio yn y bin ar unwaith a golchwch eich dwylo wedyn
  • ceisio osgoi cyswllt agos â phobl sy’n sâl

Os ydych yn amau eich bod gennych coronafirws rhaid ichi ‘Hunan-ynysu’ ar unwaith, ffoniwch 111 ac ynysu eich hun oddi wrth bobl eraill.

Mae gan NHS 111 wasanaeth ar-lein coronafirws gall ddweud wrthoch chi os fydd angen cymorth meddygol arnoch a chynghori chi ar be i’w wneud.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth fwyaf diweddar ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma:

https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/

Cyhoeddi Cadeirydd newydd

Penodwyd Catherine Dixson gan y Bwrdd Grŵp fel Cadeirydd newydd Bwrdd Grŵp Tai Gogledd Cymru yng nghyfarfod Ionawr. Roedd hyn yn dilyn proses gyfweld egnïol a oedd yn cynnwys cael ei chyfweld gan banel o denantiaid.

Catherine yw Prif Weithredwr  Cymdeithas Tai Muir Group a leolwyd yng Nghaer.

Yn flaenorol, bu Catherine yn gweithio yn GreenSquare fel Cyfarwyddwr Gweithredol (Datblygu Sefydliadol a Gwasanaethau Corfforaethol) yn Wiltshire a chyn hynny fel Cyfarwyddwr Cymorth Busnes gyda Synergy Housing yn Dorset.

Mae gan Catherine flynyddoedd lawer o brofiad yn y maes tai a gweithio i awdurdod lleol ym myd addysg, gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth tân ac achub.

Mae Catherine yn Gadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Sant Dunawd ym Mangor-is-y-coed.

Mae gan Catherine Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) ac mae’n Ysgrifennydd a Gweinyddwr Siartredig (ACIS).

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Catherine:

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd Tai Gogledd Cymru. Mae’n amser cyffrous i ymuno â’r sefydliad wrth iddo archwilio ei strategaeth at y dyfodol, ei gyfleoedd i dyfu a datblygu. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda phawb a gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddyfodol Tai Gogledd Cymru. ”

Newidiadau i grwpiau cyfranogi tenantiaid

Cynhaliodd y Panel ei gyfarfod olaf ar ei ffurf bresennol ym mis Gorffennaf 2019, a bydd yn awr yn uno â’r Pwyllgor Gwasanaethau Landlord. Enw’r grŵp newydd hwn fydd y Panel Tenantiaid a Chymunedau, cyfuniad o aelodau’r PYP ac aelodau’r Bwrdd, sy’n cyfarfod bob deufis.

Pam uno?

  • Lleihau dyblygu o’r ddau grŵp
  • Sicrhau mwy o gynrychiolaeth o safbwyntiau tenantiaid
  • Cryfhau rôl tenantiaid yn ein strwythur llywodraethu

Rôl Gyffredinol y Panel Tenantiaid a Chymunedau Newydd

  • Craffu ac adolygu ar pa mor effeithiol y mae’r Cynllun a’r strategaethau Corfforaethol yn cael eu trosi’n gamau gweithredu a pherfformiad ar gyfer cwsmeriaid a chymunedau.
  • Archwilio gwasanaethau, gan sicrhau bod llais preswylwyr yn cael ei glywed a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.
  • Bydd yn mynd i’r afael â gwella polisïau a gweithdrefnau gweithredol yn barhaus a’r cyfleoedd ar gyfer mynediad cwsmeriaid at wasanaethau, adborth gan gwsmeriaid a chraffu dan arweiniad cwsmeriaid.

Gallwch chi gwrdd ag aelodau’r Panel Tenantiaid a Chymunedau yma.

Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai

Mae Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai wedi ei gyhoeddi are wefan Llywodraeth Cymru.

Dyma’r ddolen Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai

Mae’n ofynnol i bob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig cyhoeddi’r ddolen yma ar ei wefan ei hun, yn hygyrch i bob tenant ac i rhanddeiliaid eraill.

Cysylltwch â’r isod os oes gynnych unrhyw gwestiynau/materion yr ydych eisiau eu trafod.

Ian Walters

Ffon Mob:07890 520184<
Office: 0300 025 6050
E bost/E Mail : [email protected]

Fy TGC ddim ar gael

Ni fydd Fy TGC, Porth Tenantiaid Tai Gogledd Cymru, ar gael dydd Sadwrn 27fed. Bydd y gwasanaeth ar gael et oar ddydd Llun. Mae drwg gennym am unrhyw anghyfleustra a achosir