Diolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg ar gyfer y prosiect Gwella Gwasanaethau Cwsmeriaid. Llongyfarchiadau Eleri Roberts o Fangor a enillodd y Dabled Samsung Galaxy. Yr enillwyr ar gyfer y talebau £10 stryd fawr yw Ceril Roberts o Llanrug, Wendy Davies o Hen Golwyn a Rachel Lees o Fae Colwyn.
Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid a byddwn yn darparu diweddariad yma ar sut mae’r adborth wedi cael ei ddefnyddio yn fuan.
Os hoffech drafod hyn yn fanylach, neu gael gwybod am ffyrdd eraill o gymryd rhan a darparu eich mewnbwn cysylltwch ag Iwan ar 01492 563232 neu [email protected].
Mae preswylwyr ar draws Conwy a Gwynedd yn cael eu gwahodd i ‘Enwebu Cymydog’ sy’n haeddu dathlu’r Nadolig yn gynnar gyda hamper yn llawn pethau da.
Mae Tai Gogledd Cymru unwaith eto yn lansio ei hymgyrch Nadolig flynyddol gydag 20 o hamperi Nadoligaidd blasus ar gael i’w hennill gan denantiaid sy’n byw yng Ngwynedd a Chonwy.
A ydyn nhw wedi dangos cefnogaeth ragorol i aelodau eraill o’r gymuned, wedi helpu i lansio menter neu brosiect cymunedol neu wedi bod yn gymydog wirioneddol wych? Rydym yn awyddus i glywed gan bawb!
Bydd yr enillwyr yn cael ymweliad gan tai Gogled Cymru y agosach at y Nadolig pan fydd Siôn Corn yn galw heibio i weld y cymdogion da yma, gyda’r ceirw a thîm o gynorthwywyr i gyflwyno’r hamperi yn llawn anrhegion da a rhannu tipyn o hwyl yr ŵyl.
Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
Dyma un o fy hoff bethau ar galendr Tai Gogledd Cymru! Mae yna ysbryd cymdogol yn parhau yn ein cymunedau ac rydym am ei ddathlu.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i ddweud diolch i’ch cymdogion, ac enwebwch nhw heddiw! “
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Llun, y 14 o Ragfyr 2015. Gallwch enwebu drwy anfon negeseuon testun enw, cyfeiriad a rheswm dros eich enwebiad i 07538254254 neu drwy lenwi ffurflen enwebu yma https://www.surveymonkey.com/r/Nadolig neu gan lawr lwytho a cwpwlhau y ffurflen yma ai ddychwelyd i:
Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno. Conwy LL31 9HL.
**Mae’r gystadleuaeth yma nawr wedi cau.**
Gwanwyn nesaf, byddwn yn lansio ein Cystadleuaeth Garddio, gyda gwobrau gwych i’w hennill.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei rhannu i gategorïau
- Yr Ardd Orau
- Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf Yn agored i denantiaid sydd wedi gwella eu gardd (bydd angen lluniau o’r ardd fel yr oedd yn arfer edrych)
- Yr ardd potiau orau Potiau, basgedi, bocsys ffenestri ac ati
- Gardd/gofod cymunedol taclusa
- Gardd tenant ifanc orau Categori arbennig ar gyfer tenantiaid 18-25 oed
- Y blodyn haul mwyaf a gorau Cystadleuaeth arbennig i blant ein tenantiaid sydd o dan 12 oed
Os nad ydych yn arddwr brwd, byddwch yn gallu enwebu ffrind, perthynas neu gymydog. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn denant i Tai Gogledd Cymru.
Bydd ffurflenni cais ar gael yn y Gwanwyn nesaf a disgwylir i’r beirniadu ddigwydd ym mis Gorffennaf 2016.
Os hoffech gael mwy o fanylion am y gystadleuaeth yna cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]
Lawr lwythwch boster
Rydym yn newid ein gwefan ac yn awyddus i gael eich barn am sut mae’n edrych! Hoffem eich gwahodd i grŵp ffocws fydd yn digwydd ym mis Medi i drafod eich barn. Bydd pawb sy’n bresennol yn cael cyfle i ennill tabled Samsung a thalebau Stryd Fawr mewn cystadleuaeth tynnu enwau o het.
Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu a gallwch hawlio costau teithio am fynychu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan cysylltwch ag [email protected] neu ffoniwch 01492 572727.
Methu bod yn bresennol ond yn dal am gael dweud eich dweud? Cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd i glywed gennych!