Dangoswch eich #selffidewisant ac enillwch wobr

Poster cystadleuaeth selffi
Lawrlwytho poster

Ar 1af o Fawrth byddem yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant,  diwrnod dathlu cenedlaethol y Cymry.

Bob blwyddyn rydym yn cynnal cystadleuaeth i denantiaid. Blwyddyn yma rydym yn gofyn i denantiaid dynnu #selffidewisant gan ddefnyddio eich ffôn neu gamera a’i yrru i ni.

Gallwch bosti eich llun ar ein Facebook, Twitter neu Instagram. Neu gallwch e-bostio’r llun i [email protected] gyda’r llinell testun ‘Cystadleuaeth Selffi Dydd Gŵyl Dewi Sant’.

Y dyddiad cau yw 4yp ar 1af o Fawrth 2017. Cystadleuaeth i tenantiaid Tai Gogledd Cymru yn unig.

Beth am gynnwys cwpwl o bropiau Dydd Gŵyl Dewi yn eich lluniau, neu beth am ddefnyddio ffilter lluniau arbennig? Darllenwch yr erthygl yma ar sut i dynnu selffi da am gymorth ac ysbrydoliaeth!

Enillwyr Cystadleuaeth Celf Nadolig yn cael eu datgelu

Wnaethom ni alw ar ein holl denantiaid ifanc a gofyn iddynt wneud cais ar ein Cystadleuaeth Celf Nadolig.

Beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi? Mae holl denantiaid wedi bod yn greadigol ofnadwy, ac mae nifer o geisiadau Nadoligaidd wedi landio ar ein desgiau (dim gan Sïon Corn yn anffodus!).

Mae’r beirniad wedi bod yn brysur yn ystyried y ceisiadau artistig ac wedi dewis yr enillwyr:

  • Abbey Ellen Davies, oed 5, Y Gilan, Llysfaen
  • Mark Hodgson, oed 7, Llain Cytir, Caergybi
  • Hellen Yesil, oed 13, Maes Derw, Cyffordd Llandudno
  • Denise Yesil oed 14, Maes Derw, Cyffordd Llandudno
  • Shannon Mercer oed 16, Ffordd Bugail, Bae Colwyn

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan. Roedd safon y ceisiadau yn ofnadwy o uchel ac rwyf wedi mwynhau edrych ar y ceisiadau sydd wedi eu gyrru mewn. Llongyfarchiadau i’r enillwyr i gyd!”

Enillwyr ‘Y Darlun Mawr’ yn cael eu datgelu

Yn fis Awst wnaethom ni alw ar ffotograffwyr amatur i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd, Y Darlun Mawr.

Gefynnom i chi feddwl am yr hyn rydych yn ei hoffi am fyw yng ngogledd Cymru a thynnu llun ohono.

Derbyniwyd gymaint o geisiadau gwych roedd gan y beirniad swydd anodd iawn! Rydym yn falch o gyhoeddi mai’r enillwyr yw:

Categori o dan 16

  1. Amy Gale o Gonwy – Great Orme

 Categori dros 16 oed

  1. Sue Jeffrey o Landudno – Harbwr Conwy
  2. Debbie Scotson o Gyffordd Llandudno – Llun o West Shore
  3. Sam Butterworth o Benmaenmawr – Llun o Feddgelert

Diolch i bawb wnaeth gymryd yr amser i wneud cais. Byddwn yn gwneud cystadleuaeth arall blwyddyn nesaf felly cadwch lygaid allan am y themâu.

16 oed ac iau? Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth Celf Nadolig!

**Mae’r gystadleuaeth nawr wedi cau. Gallwch gael gwybod pwy yw’r ennillwyr yma.**

Lluniwch waith celf am beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi … Gall fod yn unrhyw beth cyn belled â’i fod yn Nadoligaidd!

Gall fod yn ddarlun, paentiad neu collage – Byddwch yn greadigol!

Gwobrau – Bydd gwobrau i’r enillwyr a’r ail orau yn y categorïau oed gwahanol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 9 Rhagfyr, 2016

Sut i gymryd rhan?

  • Postiwch eich cynigion at: Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, LL31 9HL
  • E-bostiwch lun o’r gwaith celf at: [email protected]

Dylech gynnwys enw, oed, cyfeiriad a rhif ffôn/e-bost cyswllt ar BOB cynnig. Rhaid i enw’r rhiant neu warcheidwad gael eu cynnwys hefyd.

Yn anffodus, ni allwn warantu dychwelyd lluniau.

Y Garddwyr gorau yn cael eu gwobreuo

Gwyddwn nawr pwy yw garddwyr gorau Tai Gogledd Cymru gan fod enillwyr Cystadleuaeth Garddio 2015 wedi eu cyhoeddi.

Mae tenantiaid ar draws y sefydliad wedi bod yn gweithio’n galed ar eu ceisiadau ers i’r gystadleuaeth gael ei lansio yn 2015. Roedd yr  haul yn tywynnu tra roedd y beirniaid Tai Gogledd Cymru yn ymweld â’r nifer uchel o geisiadau.

Roedd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad y Tenantiaid yn un o’r beirniaid a ymwelodd â’r ymgeiswyr i gyd fis Awst.

“Diolch i bawb a ymgeisiodd. Roeddem yn hapus iawn â safon yr ymgeiswyr ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth, mae pobl wedi bod yn gweithio’n galed iawn.” 

“Roedd rhai o’r cynigion yn greadigol iawn, roedd un o’r enillwyr hyd yn oed wedi creu bwgan brain gan ddefnyddio wyneb Minion!”

Y rhestr lawn o enillwyr yw:

Dwyrain (Conwy a Sir Dinbych) 

Yr Ardd Orau

  • 1af Valmai Williams 58 Bodnant Road Llandudno
  • 2il Sue Jeffrey 49 Cae Mawr Llandudno

 Y Cynhwysydd Planhigion Gorau

  • 1af Christine Williams 15 Taverners Court
  • 2il Irene Prince 28 Llys y Coed
  • 2il Liliana Owen 16 Llys y Coed
  • (2 gydradd ail)

 Gardd Gymunedol Orau

  • 1af Lez Keri Fflat 3, Lesley Evans Flat 19, a Martin Horn Fflat 11 Llys y Coed
  • 2il Atkinson Fflat 5 Taverners Court
  • 3ydd Janet Leigh a Jane o’Pray The Metropole

 Gardd sydd wedi gwellaf fwyaf

  • Susan Newman Pengwern Abergele

Gorllewin (Gwynedd ac Ynys Môn)

 Yr Ardd Orau

  • 1af Mr a Mrs Bromley 2 Llain yr Eglwys Maesgeirchen Bangor
  • 2il Mr Steven Blundell 14 Ffordd Seiriol Bangor

 Y Cynhwysydd Planhigion Gorau

  • Janet Pritchard 7 Tyddyn Isaf Porthaethwy Ynys Môn

Gardd Gymunedol Orau

  • David Stewart 1 StMary’s House Lôn Cariadon Bangor
  • David Valencia 7 St Mary’s House Lôn Cariadon Bangor

Ffotograffiaeth yn fwy at eich dant? Rhowch gyfle ar eich cystadleuaeth ffotograffiaeth, ‘Y Darlun Mawr’ a chael y cyfle i ennill gwobrau!

Galw holl ffotograffwyr amatur! Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth

Ydych chi’n hoffi gweld bywyd drwy lens? Neu a ydych yn awyddus i ddal y foment ar eich ffôn clyfar?

Mae Tai Gogledd Cymru yn galw ar ffotograffwyr amatur i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd, Y Darlun Mawr.

Mae dau gategori oedran ar gael:

  • 16 oed a hŷn
  • 15 oed ac iau

Eleni y thema yw Gogledd Cymru. Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei hoffi am fyw yng ngogledd Cymru a thynnwch lun!

GWOBRAU – Bydd yna wobrau i’r enillwyr ac i’r ail orau ym mhob categori.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 28 Hydref, 2016.

Am fwy o wybodaeth a manylion sut i wneud cais ewch i’r dudalen hon.

Mae’r gwaith o chwilio am Dewi Sant TGC drosodd!

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi mi wnaeth Tai Gogledd Cymru lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i Sant Tai Gogledd Cymru!

Mi wnaethon ni ofyn i denantiaid a staff enwebu pwy yn eu barn nhw oedd yn deilwng o’r teitl. Pwy yn eu cymuned sydd wedi eu helpu neu wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn eu cymuned?

Mi wnaeth yr enwebiadau lifo i mewn ac ar ôl ystyriaeth ofalus gan y Grŵp Iaith Gymraeg, mi wnaethon ni dewis nid un Sant, ond tri o Seintiau! Yr enillwyr oedd Janice Gough o’r Gorlan, Bangor; Michael Kedge o Penrhos Corner, Cyffordd Llandudno a Jane O’Pray o’r Metropole, Bae Colwyn.

Cyflwynwyd hamper o gynnyrch Cymreig i’r Seintiau buddugol fel ffordd o ddweud diolch wrthynt am eu cyfraniad anhygoel i’w cymuned.

Meddai Judith Lewis, a enwebodd Michael Kedge:

Roedd Michael wrth ei fodd ac wedi cael sioc bleserus hefyd pan glywodd ei fod wedi cael ei ddewis!

Mae’n arwr tawel sy’n cyfrannu gymaint i’n cymuned leol a’n cynlluniau yn TGC, gan ein cefnogi gyda llawer o’n digwyddiadau.

Rwy’n falch ei fod wedi cael ei gydnabod ac yn gobeithio y bydd yn mwynhau ei Hamper o Gynnyrch Cymreig a’i Daleb siopa.”

Da iawn chi Seintiau a chadwch ymlaen i wneud eich gwaith gwych!

Enillydd Arolwg Bodlonrwydd wedi ei ddatgelu

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau ein Harolwg Boddhad Tenantiaid ym mis Hydref i Ragfyr 2015.

Llongyfarchiadau Mr a Mrs Blundell o Fangor a enillodd y Dabled Samsung Galaxy. Dyma lun o Mr Blundell yn derbyn y dabled fuddugol gan Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid Tai Gogledd Cymru.

Mae canlyniadau’r arolwg, a fydd yn cael ei rannu i bawb cyn bo hir, yn helpu i lunio a gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Diolch unwaith eto i bawb.

Pwy yw eich Dewi Sant chi? Enwebwch nhw yn ein cystadleuaeth Dydd Gwyl Dewi

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi rydym yn lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i Sant Tai Gogledd Cymru!

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi…

• Eich helpu chi neu bobl eraill drwy gydol y flwyddyn

• Helpu neu wedi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned

• Wedi gwneud rhywbeth arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl

• Lansio menter gymunedol

• Helpu codi arian ar gyfer elusen

Enwebwch nhw a chael cyfle i ENNILL hamper anhygoel llawn o nwyddau Cymreig!

Gall y ‘Sant’ fod o unrhyw oedran yn ddyn neu’n ddynes! Y dyddiad cau yw dydd Iau 25 Ionawr. Rhaid i’r person a enwebir fod yn Denant gyda Tai Gogledd Cymru.

Mae enwebu yn hawdd…

Ar-lein https://www.surveymonkey.co.uk/r/SantTGC

Mewn neges destun

Gallwch anfon eich enwebiad mewn neges destun drwy decstio SANTTGC at 07538254254 gydag enw a chyfeiriad y person a’r rheswm dros enwebu.

Drwy’r Post neu unrhyw un o’n swyddfeydd

Cwblhewch a dychwelwch slip enwebu (ar gael yn fuan) i Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno. LL31 9HL neu galwch heibio unrhyw un o’n swyddfeydd.

Lawr lwythwch y poster yma!

Hwyl y Nadolig yn anrheg i gymdogion da

Mis Rhagfyr, cafodd preswylwyr ar draws Conwy a Gwynedd dipyn o hwyl y Nadolig wrth i ni rannu hamperi blasus fel rhan o’n hymgyrch i ‘Enwebu Cymydog’.

Gofynnwyd i breswylwyr enwebu cymydog da oedd wedi eu helpu nhw neu eu cymuned yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Daeth Siôn Gorn i weld y cymdogion da yma, gyda’r ceirw a thîm o gynorthwywyr y Nadolig, ym mis Rhagfyr, i gyflwyno’r hamperi yn llawn anrhegion da a rhannu tipyn o hwyl y Nadolig.

Felly beth wnaeth y cymdogion buddugol i gael eu dewis ar gyfer hamper? Amrywiodd rhesymau o helpu cymdogion pan fyddant yn sâl i wneud yn siŵr bod eu cymuned yn lân, yn daclus ac yn ddiogel.

Dyma ddetholiad o luniau o’r gyflenwi. Gallwch weld y dewis llawn ar ein tudalen Facebook.