Mae’n amser Clwb Seren eto, ond efallai ei fod yn edrych mymryn yn wahanol y tro hwn. Ydi, mae Clwb Seren wedi cael ei weddnewid!
I godi ein calonnau wrth i ni agosáu at ddiwedd yr haf, mi wnaethon ni benderfynu y byddai’n syniad da i Clwb Seren gael delwedd newydd. A diolch i Blah d Blah dyna sydd wedi digwydd.
Gallwch ddarllen y cylchlythyr tenantiaid ar ei newydd wedd yma. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Y diweddaraf ar recriwtio ein Prif Weithredwr newydd
- Enillwyr y gystadleuaeth Garddio
- Y diweddaraf am ymdrechion codi arian Hosbis Dewi Sant
- Lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd ‘Y Darlun Mawr’.
Beth yw eich barn am y cylchlythyr ar ei newydd wedd? Rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r holiadur byr hwn https://www.surveymonkey.co.uk/r/FWDQYWX
Rydym am wneud Clwb Seren, ein Cylchlythyr Tenantiaid, yn rhywbeth rydych am bori ynddo, ei ddarllen a’i fwynhau. I wneud hynny mae angen i ni gael gwybod gennych beth rydych chi eisiau ei gael ohono.
Ymunwch â ni am weithdy ym mis Mawrth a fydd yn ein helpu i ddeall beth rydych chi ei eisiau gan y cylchlythyr. Beth rydych chi’n ei hoffi am y cylchlythyr presennol; beth nad ydych chi’n ei hoffi; beth fyddech chi’n hoffi cael mwy ohono? Dyma eich cyfle i ddweud wrthym!
Bydd pawb sy’n dod draw yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill talebau o’u dewis naill ai o dalebau Love2Shop (Gellir eu defnyddio yn HMV, Argos, Iceland, Mothercare, a llawer mwy), talebau Grŵp Arcadia (y gellir eu defnyddio yn Topman, Topshop, Dorothy Perkins, Burton, Miss Selfridge, Outfit) neu dalebau Tesco.
Darperir lluniaeth. Caiff costau teithio eu talu nôl i chi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r gweithdy, cysylltwch ag Iwan Evans ar [email protected] neu ffoniwch 01492 563232.
Gallwch ddarllen rhifyn yr Haf o Glwb Seren, Cylchlythyr Denantiaid Tai Gogledd Cymru, ar-lein yma .
Hwn yw rhifyn cyntaf digidol yn unig o Glwb Seren. Drwy wneud hyn rydym wedi gallu cynhyrchu rhifyn ychwanegol i denantiaid ond arbed ar gostau argraffu a phostio. Mae hyn yn rhan o’n hymgyrch i gyfathrebu fwy â’n tenantiaid ond sicrhau gwerth am arian.
Well gennych ddarllen copi digidol? Gadewch ni wybod a wnawn ni beidio gyrru copi i chi trwy’r post ac e-bostio i chi yn lle. E-bostiwch Sian Parry, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata ar [email protected].
Bydd rhifyn y Gwanwyn o Glwb Seren, Cylchlythyr Denantiaid Tai Gogledd Cymru yn gollwng ar garreg eich drws unrhyw ddiwrnod nawr …
Methu aros? Gallwch ei ddarllen ar-lein yma.
Well gennych ddarllen copi digidol? Gadewch ni wybod a wnawn ni beidio gyrru copi i chi trwy’r post ac e-bostio i chi yn lle. E-bostiwch Sian Parry, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata ar [email protected].