
Rhestr wirio diogelwch ar lein
Mae grŵp o breswylwyr wedi rhoi efo’i gilydd rhestr wirio diogelwch ar lein i gefnogi Diwrnod Saff Ar lein 2017.
Mae’r canllaw byr a hawdd i’w ddarllen yn argymell beth i edrych allan am wrth siopa ar lein yn ogystal â chynnwys 3 tip ar sut i aros yn saff ar lein.
Gallwch lawr lwytho’r rhestr wirio gan glicio ar y llun ar y dde.
Wnaeth y tenantiaid rhoi’r rhestr efo’i gilydd gyda chymorth gan Sioned Williams, ein Swyddog Digidol. Os rydych yn edrych am gymorth gyda bod mwy digidol, neu eisiau helpu eraill, cysylltwch â ni.
Mae Tai Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi holl adborth sy’n cael ei ddarparu gan ein tenantiaid, rydym yn ei ddefnyddio i wella’r gwasanaeth rydym yn eich cynnig i chi.
Rydym ni hyd yn oed yn gwerthfawrogi cwynion. Ond beth yn union sydd yn cael ei gyfrif fel cwyn? Yn yr erthygl yma, yn dilyn awgrym gan y Panel Ymgynghorol Preswylwyr, rydym yn egluro yn union beth yw cwyn a beth sydd ddim yn cael ei ystyried yn y drefn cwyn.
Beth sy’n cael ei ystyried fel Cwyn?
Mae cwyn yn golygu nad yw cwsmer yn fodlon a’r gwasanaeth a gafwyd gan Tai Gogledd Cymru neu unrhyw un o’n contractwyr. Mae hyn yn cynnwys achlysuron lle rydych yn credu:
- Ein bod wedi gwneud rhywbeth na ddylem fod wedi ei wneud
- Nad ydym wedi gwneud rhywbeth y dylem fod wedi ei wneud
- Bod ymddygiad un o weithwyr TGC (neu unrhyw un o’n contractwyr) wedi bod yn amhriodol
- Nad yw gwasanaeth rydym yn ei ddarparu wedi cael ei gyflenwi yn uno[ a’r ansawdd, diogelwch, amlder neu gost ddisgwyliedig
- Bod ein proses o wneud penderfyniadau wedi bod yn wallus
- Bod TGC wedi gweithio y tu allan i bolisi neu brotocol
Beth nad yw’n cael ei gynnwys yn ein trefn gwyno?
- Dyma’r cyswllt cyntaf ynghylch y mater
- Nid yw’r ad ran iawn wedi cael y cyfle i fynd i’r afael a’r mater
- Materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gallwch ddarllen mwy am ein trefn gwyno, neu adrodd cwyn ar-lein (neu ganmoliaeth!) gan ymweld â’r tudalen cwyn yma.
Ydych chi eisiau cyngor ar sut gallwch chi arbed ar eich biliau nwy a thrydan?
Bydd Wardeniaid Ynni yn ymweld a Llandudno at 18 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth a manylion sut I wneud apwyntiad ewch yma https://www.nwha.org.uk/cy/news-and-events/events/cyngor-arbed-ynni/.
Byddwn yn cynnal sesiynau cynghori tai bob mis ar gyfer Llandudno – yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Llewelyn, ger ysbyty Llandudno.
Cynhelir sesiynau rhwng 11:00yb a 12:30yp ar Ddydd Mawrth cyntaf bob mis, gan gychwyn ar Mawrth 1af. Mae’r sesiynau’n agored i holl breswylwyr Tai Gogledd Cymru.
Mae’r sesiynau yn gyfle i drafod unrhyw faterion cynnal a chadw tai sydd gennych, holi am gyngor ac arweiniad ar unrhyw faterion neu i gynnig awgrymiadau ar wasanaethau neu gynlluniau yr hoffech eu gweld yn eich cymuned.
Bydd y sesiynau yn gweithredu ar sail apwyntiad yn unig.
I drefnu apwyntiad cysylltwch â’r Swyddog Tai Garth Butcher ar 07899966743.
Dyddiadau’r sesiynau yw:
- Dydd Mawrth 1af Mawrth
- Dydd Mawrth 5ed Ebrill
- Dydd Mawrth 3ydd Mai
- Dydd Mawrth 7fed Mehefin
- Dydd Mawrth 5ed Gorffennaf
- Dydd Mawrth 2il Awst
- Dydd Mawrth 6ed Medi
- Dydd Mawrth 4ydd Hydref
- Dydd Mawrth 1af Tachwedd
- Dydd Mawrth 6ed Rhagfyr
Mae Tai Gogledd Cymru wedi lansio Cronfa Gymunedol i ddarparu cymorth ariannol i gynorthwyo grwpiau gwirfoddol, cymunedol, hamdden neu breswylwyr sydd wedi’u lleoli yn siroedd Conwy, Gwynedd, ac Ynys Môn. Dylai’r sefydliadau/grwpiau hyn fod yn datblygu prosiectau a mentrau sydd o fudd i’r gymuned leol.
Mae dyfarniadau ariannol fel arfer yn amrywio o £25 i £250 a gyda rhai amodau. Am fwy o wybodaeth gweler y tudalen CronfaGymunedol.
Ydych chi rhwng 16 i 25 oed? Oes gennych chi rywbeth i ddweud am faterion tai sy’n effeithio pobl ifanc? Oes gennych chi ddiddordeb gweithio a’r prosiect gyda phobl ifanc eraill i daclo’r materion yma? Os oes, pam ddim ymuno ein grŵp newydd Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc? Byddem yn cyfarfod yn Tŷ Hapus, Llandudno ar Ddydd Mawrth 14eg o Orffennaf am 5yh.
Peidiwch â phoeni am gyrraedd yno, gallwn eich helpu gyda hynny.
Lawrlwytho taflen
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Gemma ar 07717543198 neu [email protected].
Dewch i Ddigwyddiad Ynni am ddim yng Ngwesty’r Eagles, Llanrwst ar Ddydd Gwener, 10 Gorffennaf (10am – 3pm).
Cewch gyngor a chymorth am ddim ar sut i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon ac arbed arian ar eich biliau tanwydd
Lawrlwythwch
Mae TGC yn falch o allu cynnig Grant Datblygiad Personol o hyd at £ 250 ar gyfer ein tenantiaid, wedi cael ei ddatblygu er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau ariannol a allai fod yn eich atal rhag cael mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Mae enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ariannu yn cynnwys offer neu gyfarpar ar gyfer swydd neu gymhwyster e.e. pecyn trin gwallt neu lyfrau ar gyfer coleg; ffioedd cwrs neu dillad ar gyfer cyfweliad.
Cliciwch yma i gael gwybod a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais.