Tŷ Blodwel: Trawsnewid Hen Swyddfa mewn i Gartrefi

Mae Tai Gogledd Cymru (TGC) yn falch iawn o gyhoeddi bod y gwaith o drawsnewid Tŷ Blodwel, adeilad swyddfa nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol, wedi’i gwblhau yn ddau fflat ynni-effeithlon o ansawdd uchel.

Wedi’i leoli ar dir Plas Blodwel, adeilad rhestredig Gradd II, cynlluniwyd y prosiect yn ofalus i gadw cymeriad y strwythur gwreiddiol.

Wedi’u gwneud yn bosib trwy Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) Llywodraeth Cymru, bydd y fflatiau’n darparu datrysiadau tai hirdymor i’r rhai mewn angen, gan gynnwys pontio o lety dros dro.

Roedd cynaliadwyedd yn ganolog i’r prosiect, gan ymgorffori nodweddion ynni-effeithlon megis pwmp gwres gwrthdröydd Mitsubishi ar gyfer gwresogi ac oeri, gwresogydd trochi Ariston wedi’i gefnogi gan baneli ffotofoltäig ar gyfer dŵr poeth, ac inswleiddio waliau allanol i wella cysur thermol a lleihau biliau ynni. Mae’r fflatiau hefyd wedi cyrraedd safon Aur Secure by Design, gan sicrhau amgylchedd byw diogel.

Dywedodd Lauren Eaton-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu yn TGC:

“Ar ôl COVID, mae llawer o sefydliadau wedi mabwysiadu ffyrdd mwy ystwyth o weithio, gan arwain at lai o alw am swyddfeydd. Yn TGC, fe wnaethom nodi cyfle i wneud defnydd llawer gwell o adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol ger ein prif swyddfa trwy greu cartrefi. Diolch i chyllid TACP Llywodraeth Cymru, rydym wedi trosi Tŷ Blodwel yn ddau fflat gwych.

“Yn ystod argyfwng tai, mae pob cartref newydd yn bwysig. Er bod y prosiect hwn yn ychwanegu dau gartref yn unig, mae’n golygu bod dau yn llai o aelwydydd yn byw mewn llety dros dro. Rydym yn ddiolchgar i’n partneriaid am gyflwyno’r prosiect hwn ar amserlen dynn. Edrychwn ymlaen at groesawu’r preswylwyr newydd a gobeithio y byddant yn mwynhau eu cartrefi newydd.”

Mae Tai Gogledd Cymru yn estyn ei ddiolch i’n tîm cyflawni prosiect ymroddedig, gan gynnwys NWPS Construction Ltd, Saer Architects, AEJ Construction Services Ltd, UCML Utilities Consultants, IE Engineering, a Design in Safety.