TGC yn Arwain y Ffordd ar Gydraddoldeb Rhywiol Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
Yn Tai Gogledd Cymru, fe wnaethom nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod trwy ddathlu’r menywod anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn tai cymdeithasol ar draws ein sefydliad.
Rydym yn falch o fod yn arwain y ffordd o ran cynrychiolaeth menywod, gan ein bod eisoes wedi cyflawni cydraddoldeb a chydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein huwch dîm rheoli – carreg filltir y mae llawer o sefydliadau yn dal i weithio tuag ati.
Oeddech chi’n gwybod?
- Mae 7 o’n 8 aelod o’r Uwch Dîm Arwain yn fenywod
- Mae ein Prif Swyddog Gweithredol yn fenyw
- Mae ein Cadeirydd ar y Bwrdd hefyd yn fenyw
Er bod y cyflawniadau hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir, rydym yn gwybod bod gwaith i’w wneud. Yn ôl ymchwil, bydd yn cymryd tan 2053 i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau ar lefelau uwch reolwyr ar y gyfradd gyfredol o gynnydd ac mae ffigurau sy’n dangos y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi cynyddu 0.4% tra bod ffigur y DU gyfan wedi gostwng 0.6.