Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth TGC yn ôl!
Am yr ail flwyddyn yn olynol rydym yn chwilio am ffotograffwyr amatur i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth, Y Darlun Mawr.
Y thema eleni yw delwedd sydd wedi ‘Dal eich llygad’. Gall fod yn unrhyw beth o dirwedd, adeiladu, anifeiliaid, pryfaid, cwmwl neu wrthrych, mae’r cyfan i fyny i chi.
Felly chwiliwch am ysbrydoliaeth ac i ffwrdd â chi i dynnu lluniau!
Mae dau gategori oedran ar gael:
- 16 oed a hŷn
- 15 oed ac iau
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn denant Tai Gogledd Cymru.
GWOBRAU – Bydd yna wobrau i’r enillwyr ac i’r ail orau ym mhob categori.
Sut i Gymryd Rhan
Y dyddiad cau Dydd Gwener 27 Hydref 2017
Gyrwch eich lluniau i [email protected], gan gynnwys y gwybodaeth canlynol:
- Eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a cyfeiriad ebost
- Categori oed
- Disgrifiad byr o’ch ffotograff a pham rydych chi wedi ei gynnig i’r gystadleuaeth (dim mwy na 50 gair)
Ydych chi’n defnyddio Facebook, Twitter neu Instagram? Gyrrwch eich ceisiadau drwy rhain: Facebook, Twitter, Instagram.
Os byddai’n well gennych gyflwyno eich cynnig ar bapur, cysylltwch â Iwan Evans ar 01492 563232.