Cae Garnedd Yn Dathlu Degawd
Mae Cae Garnedd, un o gynllun Gofal Ychwanegol Tai Gogledd Cymru, wedi nodi ei 10fed pen-blwydd gyda dathliad arbennig i breswylwyr, ffrindiau a theulu.
Wedi’i agor yn 2015 mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Cae Garnedd ym Mhenrhosgarnedd, Bangor, oedd trydydd cynllun Gofal Ychwanegol Tai Gogledd Cymru a’r cyntaf o’i fath yng Ngwynedd. Dros y degawd diwethaf, mae wedi darparu byw’n annibynnol o ansawdd uchel i breswylwyr 55 oed a hŷn, gan gynnig gofal a chymorth hyblyg mewn cymuned ddiogel a chroesawgar.
Mae trigolion Cae Garnedd wrth eu bodd gyda’u cartref.
Rhannodd France Wynne-Williams, un o bedwar o drigolion sydd wedi byw yng Nghae Garnedd ers ei agor, ei phrofiad:
“Rwy’n hapus iawn yma! Mae’n gyfforddus ac yn gyfleus iawn.”
Ychwanegodd Josephine Johnstone, preswylydd hirsefydlog arall:
“Mae’r fflatiau’n hyfryd, ac mae’n neis iawn yma. Y munud y gwelais i’r fflat, roeddwn i ei eisiau – a dwi dal yma! Mae ‘na awyrgylch gwych, ac mae Debbie yn barod iawn i helpu. Rwy’n hapus iawn yma.”
Dywedodd Linda Mcdonald-Tipton, sydd hefyd yn breswylydd ers 10 mlynedd:
“Fflatiau moethus yw’r rhain, a gallwn ni wneud yr hyn rydyn ni eisiau! Mae’n gret yma.”
Gyda 42 o fflatiau modern, hunangynhwysol, mae Cae Garnedd yn galluogi preswylwyr i gynnal annibyniaeth a diogelwch tra’n mwynhau mynediad at wasanaethau cymorth a gofal ar y safle sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion unigol. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hamdden a chyfleusterau o ansawdd uchel i gefnogi llesiant preswylwyr.
Dywedodd Debbie Parry, Rheolwr Cae Garnedd:
“Mae gweithio yma yn bleser mawr, does dim dau ddiwrnod yr un peth. Mae bod yn rhan o deulu Cae Garnedd yn arbennig iawn.”
Dywedodd Allan Eveleigh, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau yn Tai Gogledd Cymru:
“Yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn hynod falch o’n cynlluniau Gofal Ychwanegol. Mae Cae Garnedd yn enghraifft wych o’r gwasanaethau gofal a ddarperir ar y cyd â’n partneriaid cymorth ac arlwyo, llety o ansawdd uchel, a naws gymunedol wych yn y lleoliadau hyn. Hir y parhao.”