Tai Fforddiadwy, Cynaliadwy yn Dod i Gaergeiliog, Ynys Môn
Mae gwaith adeiladu ar 17 o gartrefi newydd Tai Gogledd Cymru (TGC) yng Nghaergeiliog ar Ynys Môn wedi dechrau.
Mae’r datblygiad yn cynnwys 12 x cartref dwy ystafell wely, 3 x cartref tair ystafell wely a 2 x eiddo pedair ystafell wely. Byddant yn gymysgedd o renti cymdeithasol a chanolradd. Mae pob un o’r 17 eiddo yn cael eu hadeiladu gan DU Construction ac o dan berchnogaeth TGC a byddant yn parhau felly.
Mae’r eiddo’n cael eu hadeiladu yn unol â rheoliadau adeiladu cynaliadwy EPC A, sy’n cynnwys pympiau gwres gyda system wresogi wedi’i seilio ar reiddiadur a phaneli solar, gan ddarparu datrysiadau gwresogi a goleuo fforddiadwy i breswylwyr yn y dyfodol gan gynnwys:
- Gostyngiad o 30 – 50% mewn allyriadau CO2
- Costau rhedeg isel
Dywedodd Lauren Eaton- Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Tai Gogledd Cymru:
“Byddwn yn dyrannu’r cartrefi cymdeithasol drwy Gofrestr Tai Cyngor Sir Ynys Môn. A bydd yr eiddo canolradd yn cael eu gosod drwy Tai Teg.
“Cynhaliodd yr Hwylusydd Tai Gwledig ddatganiad angen tai ar ein rhan i helpu i ganfod y gwir alw yn yr ardal, yn ogystal â chefnogi’r cais cynllunio.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein preswylwyr cyntaf i’w cartrefi newydd yn gynnar yn 2026.”
Dywedodd Mark Blackwell, Cyfarwyddwr DU Construction:
“Dyma ein prosiect cyntaf gyda Tai Gogledd Cymru.
“Rydym yn hynod falch o allu darparu cartrefi o safon yn lleol. Mae ‘na lawer o alw am dai fforddiadwy yn yr ardal, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.
“Mae’r datblygiad hwn yn dod â thai fforddiadwy mawr eu hangen i gymuned Llanfihangel-yn-Nhywyn a Chaergeiliog ar Ynys Môn.”
Bydd gan yr holl dai ar y datblygiad dystysgrif perfformiad ynni (EPC) o A, gyda phaneli solar a’u gwresogi gan Bympiau Gwres Ffynhonnell Awyr.
Lleolir DU Contractors ym Mharc Penrhos yng Nghaergybi ac mae ganddynt dros 25 mlynedd o brofiad adeiladu tai cymdeithasol.